Cwymp eira a thirlithriad yn Eryri

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Llanberis/Twitter
Disgrifiad o’r llun, Edrych i lawr ar lwybr Pen-y-Gwryd ar yr Wyddfa

Mae Tîm Achub Mynydd Llanberis wedi cyhoeddi lluniau o gwymp eira ar Yr Wyddfa ddydd Gwener.

Fe ddywedodd y tîm ar wefan Twitter bod y lluniau'n dangos rhan o lwybr Pen-y-Gwryd ar y mynydd.

Ffynhonnell y llun, @Stevewebbwales/Twitter
Disgrifiad o’r llun, Roedd cwymp eira hefyd ar fynydd Garn

Mae'r lluniau yn dangos eira trwchus dros rannau o'r llwybr, ond does dim adroddiadau bod unrhyw un wedi cael eu dal yn y cwymp.

Mae defnyddiwr arall o Twitter, Steve Webb wedi cyhoeddi llun o dirlithriad hefyd yng Nghwm Idwal, a chwymp eira arall ar fynydd Garn.

Unwaith eto does dim adroddiadau o unrhyw un wedi'u dal.

Mae Warden Eryri wedi bod yn rhybuddio ers dydd Mercher fod angen offer arbenigol i fynd i fyny'r Wyddfa, ac ar drothwy'r penwythnos mae rhagolygon am fwy o eira ar dir uchel.

Ffynhonnell y llun, @Stevewebbwales
Disgrifiad o’r llun, Mae'r llun yn dangos tirlithriad uwchben Cwm Idwal ger Bethesda