Gŵyl Y Gelli yn chwilio am 30 llyfr gorau'r cyhoedd
- Cyhoeddwyd

Bydd prosiectau i nodi carreg filltir arbennig i Ŵyl y Gelli yn cynnwys cynllun i ddod o hyd i 30 llyfr gorau'r 30 mlynedd diwethaf.
Ers 1987 mae tref Y Gelli Gandryll ym Mhowys wedi cynnal yr ŵyl lenyddol flynyddol, gan olygu y byddan nhw'n dathlu tri degawd o fodolaeth eleni.
Mae'r trefnwyr yn gobeithio y bydd defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol yn defnyddio'r hashnod #Hay30Books i enwebu llyfr "hanfodol" o'r 30 mlynedd diwethaf.
Dywedodd cyfarwyddwr yr ŵyl, Peter Florence fod "rhannu straeon" wedi bod yn allweddol i lwyddiant Y Gelli.
'Rhannu straeon'
"Yn ei hanfod pwrpas yr ŵyl yw rhannu straeon a rhannu syniadau, ac mae'n cynulleidfa ni'n adnodd anhygoel," meddai.
"Maen nhw'n gwybod eu pethau, maen nhw'n poeni am bethau, mae ganddyn nhw angerdd, eu ffefrynnau a phethau maen nhw'n ei fwynhau. Rydyn ni eisiau defnyddio hynny a dweud 'dyma beth rydyn ni wedi'i ddarganfod, beth yw'ch rhai chi?'.
"Mae pawb wrth eu bodd â straeon, boed nhw'n cael eu hadrodd ar ffilm, mewn caneuon, gemau neu lyfrau. Mae pawb yn ymateb i'r foment pan allwch chi ddychmygu sut beth yw bywyd i rywun arall."
Bydd digwyddiadau eraill i nodi'r garreg filltir yn 2017 yn cynnwys partneriaeth gyda Choed Cadw i blannu coed ar 30 acer o dir ar draws Cymru gyda chymorth 30 o ysgolion, gyda gweithgareddau plant ysgol hefyd yn rhan o ddeuddydd cyntaf yr ŵyl.
Er nad yw amserlen lawn yr ŵyl yn cael ei chyhoeddi nes 3 Ebrill mae cadarnhad eisoes wedi dod y bydd enwau megis Stephen Fry, Tracey Emin, Will Young a Ken Dodd yn ymddangos.