Sêr teledu yn taclo'r Gymraeg

Cyhoeddwyd
Disgrifiad, Sêr teledu yn dysgu Cymraeg

Dydd Gŵyl Dewi hapus!

I ddathlu'r diwrnod, mae Cymru Fyw wedi herio rhai o sêr y sgrin fach i ddysgu ychydig o Gymraeg. Sut hwyl gafodd actorion Eastenders, Casualty a Dannii Minogue, o'r gyfres Let It Shine, arni?

Dannii Minogue - Let it Shine

Mae'r gantores ac actores Dannii Minogue wedi bod yn disgleirio fel un o feirniaid y gyfres Let it Shine yn ddiweddar ar y BBC. Ac er mai yn Awstralia gafodd hi ei magu, mae ganddi wreiddiau yng Nghymru felly dyw'r Gymraeg ddim yn newydd iddi:

Disgrifiad, Danni'n dysgu Cymraeg

Eastenders

Mae llawer o ymwelwyr i Gymru yn cael trafferth i ynganu enwau hyfryd ein pentrefi, trefi a dinasoedd. Ond sut hwyl gafodd cast Eastenders arni?

Disgrifiad, Pwy feddylia ei fod mor anodd?

Casualty

Gan fod y gyfres ddrama Casualty yn cael ei ffilmio yng Nghaerdydd erbyn hyn, mae'n ddefnyddiol i'r criw ddysgu enwau rhannau'r corff yn Gymraeg...

Disgrifiad, Criw Casualty yn dysgu enwau rhannau'r corff

Rhannwch y Gymraeg! Ydych chi'n nabod rhywun fyddai'n hoffi dysgu'r iaith?

Straeon perthnasol