Chwe Gwlad: Merched Yr Alban 15-14 Merched Cymru

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, SNS
disgrifiad o’r llunCic gosb Sarah Law yn rhoi buddugoliaeth gofiadwy i'r Alban

Torcalon oedd hi i dîm rygbi merched Cymru yn erbyn Yr Alban yn Stadiwm Broadwood.

Roedd hi'n gêm hynod o agos a dim ond un pwynt oedd ynddi yn y diwedd.

Roedd dau gais i Gymru yn yr hanner cyntaf - un drwy Carys Phillips ac roedd y llall yn gais cosb, ond gwelwyd gallu'r Alban drwy gais Lisa Thomson cyn hanner amser.

Cynyddodd gobeithion Yr Alban wedi i gais Rhona Lloyd ddod ac roedd y ddau dîm o fewn un sgôr i'w gilydd.

Yna yn y funud olaf fe giciodd Sarah Law gic gosb a dorrodd galonnau'r Cymry a rhoi'r fuddugoliaeth gyntaf i ferched Yr Alban ers saith mlynedd.