'Dim rheidrwydd i'r Gymraeg' mewn hysbyseb canghellor
- Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr yn dweud ei bod yn warthus bod Prifysgol Aberystwyth yn ceisio penodi canghellor newydd sydd ddim angen bod yn rhugl yn y Gymraeg.
Fe fydd y canghellor presennol Syr Emyr Jones-Parry yn dod i ddiwedd ei ail dymor yn y swydd yn 2018 - cyn hynny bu'n llywydd y brifysgol ac yn ddiplomydd ar ran y DU.
Mae ymgyrchwyr yn credu y dylai'r swydd-ddisgrifiad ar gyfer ei olynydd gynnwys bod yn rhugl yn y Gymraeg fel rhywbeth gofynnol.
Dywedodd y brifysgol eu bod yn disgwyl i'r canghellor nesaf fedru siarad Cymraeg.
Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol: "Mae pedwar o'r panel o chwech fydd yn penodi yn siarad Cymraeg, ac mae'r chwech wedi ymrwymo i'r iaith a diwylliant Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth."
Ychwanegodd y byddai'r swydd yn canolbwyntio yn bennaf "ar ddyletswyddau llysgenhadol a seremonïol gan gynnwys y seremoni raddio".
Mae'r brifysgol yn gwahodd ceisiadau am y swydd erbyn 3 Mawrth.
Dywedodd Hedydd Elias o grŵp ymgyrchu Ffrindiau Pantycelyn: "Gyda'r holl faterion Cymreig a myfyrwyr cyfrwng Cymraeg sydd yn y brifysgol, credaf ei fod yn hollol warthus nad oes gofyn i'r canghellor nesaf fedru'r Gymraeg, ac mae'n syndod mawr nad yw'r brifysgol wedi cynnwys hyn yn y swydd ddisgrifiad.
"Yn ogystal â medru siarad y Gymraeg, mae angen i'r Canghellor nesaf fod yn barod i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ei g/waith bob dydd, a hefyd barchu'r gymuned Gymraeg.
"Rydym yn gobeithio mai un o flaenoriaethau'r Canghellor nesaf fydd cadw at yr addewid i ailagor Neuadd Pantycelyn erbyn mis Medi 2019."
'Dim ymgynghori'
Dywedodd Manon Elin, aelod arall o'r grŵp: "Mae hefyd gennym bryder am y diffyg ymgynghori ynghylch hyn. Mae hon yn swydd uchel iawn o fewn y Brifysgol, ond dyw'r brifysgol ddim wedi ymgynghori gyda myfyrwyr o gwbl ar hyn.
"Dydy hyn ddim yn gosod seiliau da iawn am arweinyddiaeth a fydd yn para am o leiaf pum mlynedd."
Mae'r anghydfod yn dilyn ymgyrchoedd i gael rhuglder yn y Gymraeg fel amod ar gyfer swydd yr is-ganghellor.
Cyn penodi Elizabeth Treasure i'r swydd yn ddiweddar, gosododd y Brifysgol amod i ddysgu'r iaith hyd at lefel D cyn iddi ddechrau yn y swydd.
Straeon perthnasol
- 10 Chwefror 2017
- 15 Rhagfyr 2016