Carchar am ddarlledu fideo byw o'r llys ar Facebook
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth David Davies ddarlledu'r fideo o'r galeri cyhoeddus yn Llys y Goron Caerdydd
Mae dyn o Rondda Cynon Taf wedi cael ei garcharu am 28 diwrnod am ddirmyg llys, ar ôl iddo ddarlledu fideo byw o lys ar Facebook.
Roedd David Davies, 39 oed o Lanilltud Faerdref, mewn galeri gyhoeddus yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun pan ddechreuodd ddarlledu fideo Facebook Live o'i ffôn.
Fe wnaeth aelod o'r cyhoedd, oedd wedi gweld y fideo o berson yn rhoi tystiolaeth ar-lein, gysylltu â swyddogion a'u gwneud yn ymwybodol ohono.
Cafodd Davies ei arestio ddydd Mawrth ar ôl dychwelyd i'r llys i ddilyn yr achos unwaith eto.
Yn hwyrach y diwrnod hwnnw fe ymddangosodd o flaen y barnwr, ble cafodd ei ddedfrydu i bedair wythnos o garchar.