Lluniau: Gwobrau'r Selar 2017
- Cyhoeddwyd
Roedd Nos Sadwrn 18 Chwefror yn noson fawr i gerddoriaeth Gymraeg wrth i bumed Gwobrau'r Selar gael ei gynnal yn Aberystwyth.
Y Bandana, sydd bellach wedi chwalu, oedd enillwyr mwya'r noson gan gipio pedair gwobr.
Dyma rai o uchafbwyntiau'r noson mewn lluniau:
Ffracas oedd y Band Newydd Gorau. Fe enillodd y grŵp o Bwllheli wobr y Record Fer Orau hefyd
Cyfleus iawn!
Cowbois Rhos Botwnnog, un o'r bandiau oedd yn perfformio ar y noson
Derbyniodd Geraint Jarman wobr Cyfraniad Arbennig
Osian o'r Candelas - yr Offerynnwr Gorau - yn denu ymateb y dorf
Does ryfedd eu bod nhw'n gwenu. Pedair gwobr i'r Bandana
CaStLeS, un o artistiaid prosiect Gorwelion, yn perfformio ar y noson
Am y drydedd flwyddyn yn olynnol Yws Gwynedd oedd yr Arist Unigol Gorau. Derbyniodd y wobr hefyd am y Fideo Cerddoriaeth Gorau gan Rhodri ap Dyfrig o S4C (enillydd crys mwyaf llachar y noson dybed?)
Enillwyr Gwobrau'r Selar 2016:
- Cân Orau: Cyn i'r Lle Ma Gau - Y Bandana
- Hyrwyddwr Gorau : Maes B
- Cyflwynydd Gorau: Lisa Gwilym
- Artist Unigol Gorau: Yws Gwynedd
- Band Newydd Gorau: Ffracas
- Digwyddiad Byw Gorau: Maes B
- Offerynnwr Gorau: Osian Williams
- Gwaith Celf Gorau: Fel Tôn Gron - Y Bandana
- Band Gorau: Y Bandana
- Record Hir Orau: Fel Tôn Gron - Y Bandana
- Record Fer Orau: Niwl - Ffracas
- Fideo Cerddoriaeth Gorau: Sgrin - Yws Gwynedd