Scarlets 42 - 7 Zebre

Steff Evans Image copyright Huw Evans picture agency

Fe wnaeth Y Scarlets sicrhau pwynt bonws gyda buddugoliaeth gyfforddus gartref dros Zebre yn y Pro 12 nos Wener.

Steff Evans, Aaron Shingler a Tom Williams groesodd am y tri chais yn yr hanner cyntaf, gyda Tom Price, cais gosb a Will Boyde yn sicrhau'r ceisiau eraill cyn diwedd yr ail hanner.

Roedd Dan Jones yn gywir gyda phum trosiad ac Aled Thomas giciodd y chweched.

Mattia Bellini groesodd am unig gais y gêm i'r ymwelwyr.

Mae'r Scarlets yn parhau yn y pedwerydd safle yn nhabl y Pro 12.