Lluniau: Cymru yn y 90au

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun,
Sara Ogwen Williams yn gwisgo'r ffrog oedd yn symbol o Cŵl Cymru

Bydd cyfle i chi ail fyw eich ieuenctid ffôl pan fydd cyfres newydd ar BBC One Wales yn dadansoddi'r ddegawd pryd cafodd Cymru ei thrawsnewid - y 90au.

Dyma ddegawd Cŵl Cymru a sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol ac roedd pobl yn 'smygu mewn tafarndai!

Mi fydd y casgliad yma o luniau yn sicr yn eich paratoi yn feddyliol ar gyfer y rhaglen:

Disgrifiad o’r llun,
Scott Gibbs yn dryllio gobeithion Lloegr o ennill y Gamp Lawn yn 1999. Enillodd Cymru 32-31 yn Wembley
Disgrifiad o’r llun,
Roedd hi'n amser "malu cacan siocled" yn 1996 wrth i Jonsi ddod yn lais cyfarwydd ar Radio Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Catatonia: 1999. Lle mae dy het di Cerys?
Disgrifiad o’r llun,
Amser mynd â'r ci am dro!
Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,
Oeddech chi'n codi'n gynnar i wylio Slot Sadwrn ar S4C gyda Daniel Glyn a Gaynor Davies? Ai chi yw un o'r plant yn y llun?
Disgrifiad o’r llun,
Pan drodd Ioan Gruffudd ei fflachlamp ymlaen, fe wnaeth e sylweddoli ei fod wedi hen adael Cwmderi ac wedi dod i amlygrwydd byd-eang yn y ffilm 'Titanic' (1997)
Disgrifiad o’r llun,
Cofio rhain? Siopau recordiau oedden nhw'n arfer eu galw nhw. Roedden nhw'n boblogaidd iawn am flynyddoedd...
Disgrifiad o’r llun,
"Pa fotwm 'dy ni'n ei bwyso i gael S4C?" Roedd cyfrifiaduron mewn ysgolion yn dechrau dod yn olygfa gyfarwydd
Disgrifiad o’r llun,
Ie dros Gymru. O drwch blewyn pledleisiodd y mwyafrif dros sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol yn 1997
Disgrifiad o’r llun,
'Twin Town' gyda Rhys a Llŷr Ifans
Disgrifiad o’r llun,
Peidiwch â chynhyrfu! Oedd ganddoch chi 'shell suit' liwgar?
Disgrifiad o’r llun,
Oedd ganddoch chi Gameboy yn y 90au?
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Gorky's Zygotic Mynci'n boblogaidd iawn yn Siapan... a Lerpwl
Disgrifiad o’r llun,
Roedd teithwyr yn clywed yr ebychiad "Dwi ar y trên!" yn aml yn y 90au
Disgrifiad o’r llun,
Pwy yw'r teulu newydd 'ma yng Nghwmderi?
Disgrifiad o’r llun,
Mi 'naeth y CD ddisodli'r casét yn y 90au. 'Dych chi'n cofio'r bechgyn yma? Ble maen nhw nawr tybed?