Siart mawr S4C: Y gorau o 2016
- Cyhoeddwyd

Roedd 2016 yn un o'r rhai mwyaf lliwgar i Gymru ar gof a chadw. Rhwng y cyffro gwleidyddol a'r campau ar y maes chwarae, roedd digon i gadw'r Cymry yn ddiwyd dros y 12 mis. Ond pa raglenni teledu ein sianel cenedlaethol oedd y rhai mwyaf poblogaidd? Mae S4C wedi rhannu ei ffigyrau gwylio* gyda BBC Cymru Fyw - ac mae'r drefn yn un diddorol...
20. Heno. [Dyddiad darlledu: 24/03; Nifer y gwylwyr: 67,000]
Roedd y rhaglen gylchgrawn yn darlledu'n fyw o Stadiwm Dinas Caerdydd wrth i dîm Chris Coleman herio Gogledd Iwerddon yn y cyntaf o ddwy gêm gyfeillgar cyn pencampwriaeth Euro 2016. Roedd 'na hefyd sgyrsiau gyda rhai o'r bobl fu'n cymryd rhan yn Hanner Marathon y Byd dros benwythnos y Pasg yng Nghaerdydd.
- 2006 - Rhif 20 - Jonathan - 94,000
19. Eisteddfod Yr Urdd. [03/06; 68,000]
Diwrnod o uchafbwyntiau'r dydd o faes yr ŵyl yn Sir y Fflint, gan gynnwys cystadleuaeth y gerddorfa neu fand dan 25.
- 2006 - Rhif 19 - Y Briodas Fawr - 95, 000
18. Noson Lawen (ail-ddarllediad). [03/09; 75,000]
Un o hoelion wyth amserlen S4C ers degawdau. Hen raglen oedd hon gyda'r dyfarnwr Nigel Owens yn arwain noson o Bafiliwn y Bont ym Mhontrhydfendigaid. Ar Log, Aled Hall, Côr Ger y Lli, Catrin Dafydd ac Einir Dafydd oedd wrthi'n diddanu.
- 2006 - Rhif 18 - Cefn Gwlad - 95, 000
17. Noson Big Band. [30/12; 77,000]
Noson o gerddoriaeth o lwyfan y pafiliwn, Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016.
- 2006 - Rhif 17 - America Gaeth A'r Cymry - 95, 000
16. Cyngerdd agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol. [29/07; 79,000]
Only Men Aloud, ffefrynnau gyda chynulleidfa'r Eisteddfod, oedd yn agor y brifwyl yn swyddogol yng nghwmni'r soprano Gwawr Edwards a'r actores a'r gantores Rebecca Trehearn.
- 2006 - Rhif 16 - Tri Tenor Yn Tsieina - 95,000
15. Eisteddfod Genedlaethol - cystadlu. [03/08; 80,000]
Y parti dawns werin dan 25 oed ac Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts oedd y diwrnod o gystadlu mwyaf poblogaidd ymysg y gynulleidfa.
- 2006 - Rhif 15 - Cymanfa Ganu: Eisteddfod Genedlaethol - 95,000
14. Jonathan. [18/03; 80,000]
Y model Dylan Garner a'r cyflwynydd Ifan Jones Evans oedd yn ymuno â chriw Jonathan yn ystod cyfnod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2016, a'r bennod hon brofodd i fod y mwyaf poblogaidd o'r gyfres.
- 2006 - Rhif 14 - Aberfan - 98, 000
13. Y Gwyll. [06/11; 84,000]
Un o ddramâu mwyaf llwyddiannus S4C yn y blynyddoedd diwethaf. Trodd 84,000 o wylwyr ledled Prydain i'r sianel i wylio ail ran pennod gynta'r drydedd gyfres... dal efo ni?
- 2006 - Rhif 13 - Pobol y Cwm - 98,000
12. Rygbi 7 Bob Ochr. [22/07; 86,000]
Rhain oedd rowndiau cyn-derfynol rownd rhanbarthol Cymru o gystadleuaeth saith bob ochr Singha.
- 2006 - Rhif 12 - Eisteddfod Yr Urdd Sir Ddinbych - 99,000
11. Y Gymanfa Ganu. [31/07; 89,000]
Dyma gyngerdd i ddathlu pen-blwydd Cymanfa Ganu'r Eisteddfod Genedlaethol yn 100 oed yng nghwmni arweinydd y noson, Alwyn Humphreys.
- 2006 - Rhif 11 - Dau Yn Un: Patagonia - 100,000
10. Rygbi Pawb. [13/03; 95,000]
Fel mae'r enw yn awgrymu, dyma gyfres sy'n cynnig uchafbwyntiau gemau rygbi ar lawr gwlad. Yn y bennod hon roedd uchafbwyntiau Cymru dan 18 v Ffrainc dan 18, a'r gorau o gystadleuaeth dan 16 Ysgolion Cymru.
• 2006 - Rhif 10 - Gala Mudiad Ffermwyr Ifanc - 100,000
9. Newyddion 9. [21/11; 98,000]
Yn ennill ei lle, yn briodol iawn, yn nawfed ar y rhestr mae prif raglen newyddion y sianel. Trodd bron i gan mil o bobl at S4C ym mis Tachwedd y llynedd i ddilyn prif stori'r noson, sef pryderon ynglŷn â gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
• 2006 - Rhif 9 - Dechrau Canu Dechrau Canmol o Ŵyl y Faenol - 105,000
8. Sgorio: Y Seintiau Newydd v APOEL. [12/07; 108,000]
Hon oedd cymal cyntaf gêm y tîm o Groesoswallt yn erbyn pencampwyr Cyprus yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr. Serch yr holl ddiddordeb, gêm ddi-sgôr - a chymharol ddi-fflach - oedd hi yn y diwedd.
• 2006 - Rhif 8 - Cefn Gwlad: Y Mynydd Du - 108,000
7. Rygbi Uwch Gynghrair Principality. [31/12; 109,000]
Gêm fyw o Heol Sardis oedd ar y bocs ar ddiwrnod ola'r flwyddyn, wrth i Bontypridd groesawu Cross Keys. Fe orffennodd y gêm gyda buddugoliaeth i'r tîm cartref, 31-22.
• 2006 - Rhif 7 - Noson Lawen - 109,000
6. Aberfan: Cantata Memoria. [09/10; 119,000]
Dyma gyngerdd arbennig o Ganolfan Mileniwm Cymru i goffáu hanner canmlwyddiant trychineb Aberfan. Prif ddarn y noson oedd gwaith comisiwn newydd gan S4C, Cantata Memoria, wedi ei gyfansoddi gan Syr Karl Jenkins a'r Prifardd Mererid Hopwood. Roedd y première byd yn cynnwys perfformiadau gan Bryn Terfel, Elin Manahan Thomas, Catrin Finch, corau cymysg Côr Caerdydd, Côr CF1 a Cywair a cherddorfa Sinfonia Cymru.
• 2006 - Rhif 6 - Cyngerdd Yr Urdd 2006 - 114,000
5. Eisteddfod Llangollen. [09/07; 128,000]
Dyma oedd darllediad o gystadlaethau'r corau ieuenctid, cymysg, meibion, merched a'r categori agored yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ar gyfer teitl Côr y Byd 2016, tlws Luciano Pavarotti a gwobr ariannol o £3,000. Dyma uchafbwynt Eisteddfod Llangollen a diweddglo i'r wythnos o gystadlu rhyngwladol.
• 2006 - Rhif 5 - Llangollen '06: Côr y Byd - 134,000
4. Clwb Rygbi Rhyngwladol - Cymru d20 v Yr Alban d20.[12/02; 165,000]
O Barc Eirias, Bae Colwyn, daeth un o gemau mwyaf heriol y tîm cenedlaethol dan 20 ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y llynedd. Sicrhaodd y cochion fuddugoliaeth yn y munudau olaf ar eu ffordd i sicrhau'r Gamp Lawn mewn ymgyrch fythgofiadwy.
• 2006 - Rhif 4 - Katherine Jenkins - Yn Fyw o Langollen - 174,000
3. Cwpan FA: Casnewydd v Blackburn Rovers. [18/01; 201,000]
Yn drydedd ar y rhestr - yn annisgwyl o bosib, ond hefyd yn ddealladwy o ystyried apêl y gystadleuaeth ym Mhrydain - mae'r gêm rhwng Casnewydd a Blackburn Rovers yng Nghwpan FA. Fel y disgwyl, Blackburn aeth â hi o 2-1.
• 2006 - Rhif 3 - Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r cylch - 174,000
2. UEFA Euro 2016 - Cymru v Gwlad Belg. [01/07; 216,000]
O Rodney Parade i ddathliadau mawr Lille. Pwy all anghofio'r fuddugoliaeth hanesyddol yno yn erbyn Gwlad Belg yn Euro 2016? Gyda'r ddeuawd enwog Nic Parry a Malcolm Allen wrth y llyw, trodd dros 200,000 o bobl i S4C i wylio Cymru'n hawlio'u lle yn y rownd gyn-derfynol, ar ôl dod yn ôl o 0-1 i drechu un o ffefrynnau'r bencampwriaeth.
• 2006 - Rhif 2 - Y Clwb Rygbi (Gweilch v Gleision)- 286,000
1. Clwb Rygbi Pro12 - Gleision v Scarlets. [01/01; 244,000]
Daeth ffigyrau gwylio uchaf 2016 ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn, wrth i'r Gleision groesawu'r Scarlets i'r brifddinas yn un o gemau darbi cyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd. Alex Cuthbert oedd arwr y gêm, wrth iddo sgorio cais hwyr i hawlio buddugoliaeth ddramatig i'r tîm cartref.
• 2006 - Rhif 1 - Y Clwb Rygbi Rhyngwladol (Ariannin v Cymru) - 339,000
Mae'n deg dweud felly, er gwaethaf holl ymdrechion Coleman a'r criw yn Ffrainc, mai cenedl rygbi ydyn ni wedi'r cyfan...
*Mae'r ffigyrau wedi'u cymryd o samplau gwylio ledled Prydain ac yn cyfri'r nifer o unigolion gwahanol sydd wedi troi at y rhaglen am o leiaf tri munud. Mae'r siart yn cynnwys un bennod - neu raglen - yn unig o bob 'cyfres'.