Galw am symud cofgolofn Bwa'r Morlys ym Môn i le amlwg

Marmor Image copyright GRAHAM HOGG/GEOGRAPH

Mae un o gynghorwyr Môn yn galw am symud cofgolofn sy'n nodi diwedd ffordd yr A5 ar Ynys Môn i leoliad lle gallai mwy o bobl ei gweld.

Mae porth marmor Bwa'r Morlys yng Nghaergybi'n cael ei ddisgrifio fel gefaill i borth enwog y Marble Arch yn Llundain.

Ond ar hyn o bryd mae'r gofeb restredig Gradd II ym Môn ar dir harbwr Caergybi ac ar gau i'r cyhoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes y byddai symud y porth o gymorth i'r diwydiant twristiaeth yn y dref.

'Rhan o'n hanes'

Mae perchnogion y tir, Stena Line wedi dweud nad oes ganddyn nhw wrthwynebiad i'r syniad, ond mai'r corff treftadaeth CADW sydd yn gyfrifol am wneud penderfyniad fel hyn.

Cafodd y porth, sy'n cael ei adnabod hefyd fel y Bwa Buddugoliaethus neu Fwa Siôr IV, ei gwblhau yn 1824 - dair blynedd cyn i'r porth yn Llundain gael ei gwblhau.

Dywedodd Mr Lloyd Hughes: "Mae'n rhan o'n hanes, does dim amheuaeth am hynny, ond dydi 80% o bobl Ynys Môn ddim yn gwybod ei bod yno.

"Cafodd ei adeiladu yn yr 1800au cynnar gyda marmor o Fae Benllech. I symud y cerrig hyn yr adeg honno i Gaergybi, rhaid bod hynny wedi cymryd cryn amser a chryn ymdrech.

Image caption Mae porth marmor y Marble Arch yn nodi dechrau ffordd yr A5 yn Llundain

"Mae'n bechod fod cofgolofn fel hyn mewn lle nad oes modd i neb fynd i'w gweld.

"Pan ewch i Iwerddon mewn llong, fe allwch fynd yn agos ati, ond fel arall does dim hawl ganddoch chi i fynd yno."

Cafodd ffordd yr A5 ei hadeiladu gan Thomas Telford a'i chwblhau yn 1826, pan agorwyd Pont y Borth.

Angen 'cyfiawnhad cryf'

Dywedodd llefarydd ar ran CADW: "Dydi rhestru'r gofgolofn ddim yn atal ei hadleoli.

"Rhaid i'r rhai sy'n cynnig y syniad drafod gyda'r perchennog a Chyngor Ynys Môn ac fe fyddan nhw'n gorfod penderfynu os oes angen rhoi caniatâd adeilad rhestredig."

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Fe fyddai swyddogion cynllunio'n hapus i ddarparu arweiniad i'r Cynghorydd Hughes os yw am wneud cais adeilad rhestredig swyddogol.

"Byddai unrhyw gynnig i symud Bwa'r Morlys angen cefnogaeth y perchennog a chyfiawnhad cryf i gefnogi'r cynnig, gan fod rhagdybiaeth fod y gofeb yn cael ei diogelu orau yn ei lleoliad presennol.

"Os byddwn yn derbyn cais adeilad rhestredig, yna fe fyddwn yn delio gyda'r cais yn y dull cywir ac fe fyddai'r ymgynghoriad yn cynnwys CADW fel rhan o'r broses."