Chwe Gwlad: Biggar a North yn ffit i wynebu Lloegr

Dan Biggar a George North Image copyright Getty Images

Mae Dan Biggar a George North yn ffit i ddechrau yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Mae'r maswr wedi gwella o anaf i'w asen, tra bo'r asgellwr yn holliach ar ôl anaf i'w goes.

Bydd dau newid o'r tîm drechodd Yr Eidal ddydd Sul, gyda'r propiau, Rob Evans a Tomas Francis, yn cymryd lle Nicky Smith a Samson Lee.

Mae Taulupe Faletau, sydd ddim wedi chwarae ers noswyl Nadolig, wedi ei enwi ar y fainc.

Roedd y tîm hyfforddi wedi oedi cyn cyhoeddi'r tîm i roi cymaint o amser a phosib i asesu ffitrwydd y chwaraewyr.

'Haeddu eu cyfle'

"Roedden ni'n hapus iawn gyda'r canlyniad yn Rhufain ac yn edrych i adeiladu ar y perfformiad yna'r penwythnos yma," meddai hyfforddwr Cymru Rob Howley.

"Fe wnaeth Rob a Tomas gryn argraff oddi ar y fainc y penwythnos diwethaf ac maen nhw'n haeddu eu cyfle i ddechrau.

"Doedd gennym ni ddim llawer o amser ond mae Dan a George wedi gweithio'n galed gyda'r meddygon ac ry'n ni'n falch iawn o allu eu henwi nhw."

Image copyright Rex Features
Image caption Bydd Jack Clifford yn ennill ei wythfed cap yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn

Mae Lloegr wedi gwneud dau newid i'r tîm wnaeth drechu Ffrainc y penwythnos diwethaf, gyda Jack Clifford yn dechrau ei gêm gyntaf yn y Chwe Gwlad.

Bydd y blaenasgellwr yn cymryd lle Tom Wood, tra bo Jack Nowell yn dechrau yn lle Jonny May ar yr asgell.

Gallwch ddilyn y gêm ar lif byw arbennig Cymru Fyw o 16:20 ddydd Sadwrn.

Image copyright Getty Images
Image caption Tomas Francis a Rob Evans yw'r ddau newid i'r tîm drechodd Yr Eidal

Tîm Cymru

Leigh Halfpenny; George North, Jonathan Davies, Scott Williams, Liam Williams; Dan Biggar, Rhys Webb; Rob Evans, Ken Owens, Tomas Francis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (c), Sam Warburton, Justin Tipuric, Ross Moriarty.

Eilyddion: Scott Baldwin, Nicky Smith, Samson Lee, Cory Hill, Taulupe Faletau, Gareth Davies, Sam Davies, Jamie Roberts.

Tîm Lloegr

Mike Brown; Jack Nowell, Jonathan Joseph, Owen Farrell, Elliot Daly; George Ford, Ben Youngs; Joe Marler, Dylan Hartley (c), Dan Cole, Joe Launchbury, Courtney Lawes, Maro Itoje, Jack Clifford, Nathan Hughes.

Eilyddion: Jamie George, Matt Mullan, Kyle Sinckler, Tom Wood, James Haskell, Danny Care, Ben Te'o, Jonny May.