Saethu Llanbedrog: Dyn wedi marw o un ergyd i'r pen

Peter Colwell Image copyright Facebook
Image caption Roedd Peter Colwell yn 18 oed ac yn heliwr brwd

Bu farw dyn 18 oed yn Llanbedrog o un ergyd gwn i'w ben, yn ôl archwiliad post mortem yr heddlu.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i ymchwilio i farwolaeth Peter Robert Colwell dros y penwythnos.

Daeth swyddogion o hyd i Mr Colwell o Gapel Uchaf, Clynnog Fawr yn farw ym maes parcio tafarn y Llong yn Llanbedrog wedi'r digwyddiad yn oriau man bore Sul.

Ddydd Mercher, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod archwiliad post mortem wedi ei gynnal ar 7 Chwefror.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Iestyn Davies: "Mae nifer o arbenigwyr wedi bod yn cynorthwyo yn yr archwiliad post mortem, roedd hyn yn ein helpu i ail-greu'r digwyddiad.

"Fe ddaeth swyddogion ar draws dryll yn y fan, ac fe gafodd pedwar o ddynion lleol eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad."

Mae'r pedwar dyn bellach wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth yn dilyn y digwyddiad, ac mae teulu Mr Colwell yn parhau i dderbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Straeon perthnasol