Galw am ddatganoli darlledu yn sgil pryder am ariannu S4C

Cymdeithas

Mae rhai o aelodau seneddol Cymru wedi dweud ei bod hi'n amser i ddatganoli darlledu yn sgil pryder am ariannu S4C.

Daeth eu sylwadau ar ôl iddynt gwrdd â dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn San Steffan ddydd Mawrth.

Wrth annerch gwleidyddion dywedodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd y Gymdeithas, bod S4C "dan fygythiad" ac nad oedd "ewyllys gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i barhad yr iaith".

Roedd aelodau o bob plaid yn bresennol ac yn ôl Albert Owen, aelod Llafur Ynys Môn, roedd yna bryder cynyddol ynglŷn â dyfodol y Sianel ac roedd hi nawr yn "amser i ddatganoli darlledu".

Ond yn ôl yr aelod Ceidwadol, David Davies, er nad oedd o yn erbyn y syniad o ddatganoli darlledu nid oedd o'n credu y byddai "o reidrwydd yn arwain at sefyllfa well i S4C."

Image caption Ar hyn o bryd mae cyllid S4C yn dod gan ffi'r drwydded deledu a gan Adran Ddiwylliant Chwaraeon a'r Celfyddydau

Pryderu am doriadau pellach

Mae'r ymgyrchwyr iaith wedi galw ar aelodau seneddol o bob plaid i bwyso am ddatganoli darlledu er mwyn gwarchod dyfodol S4C.

Mae S4C yn cael ei ariannu gan gyfuniad o ffi'r drwydded deledu, gyda swm llawer llai yn dod o'r Adran Ddiwylliant Chwaraeon a'r Celfyddydau.

Ar hyn o bryd y disgwyl yw y bydd Adran Ddiwylliant San Steffan yn torri £700,000 ar wariant S4C yn 2017/18, er ei bod wedi dweud y byddai toriadau yn cael eu rhewi tra bod adolygiad yn cael ei gynnal i gylch gorchwyl y sianel o'r modd y mae'r Sianel yn cael ei chyllido.

Dyw'r adolygiad heb ddechrau eto, ond mae aelodau seneddol o bob plaid wedi mynegi pryder ynglŷn ag effaith unrhyw doriadau pellach ar y sianel.

Dywedodd Heledd Gwyndaf ei bod yn poeni nad oedd gweinidogion llywodraeth y DU yn rhannu'r un pryder, a bod rhaid sicrhau bod datganoli darlledu yn rhan o gylch gorchwyl yr adolygiad.

"Pa wleidydd rhesymol all gyfiawnhau rhagor o doriadau i S4C? Mae hyd yn oed rhan helaeth ceidwadwyr Cymru yn gweld na allan nhw weithredu'n groes i addewid maniffesto clir i ddiogelu cyllid y Sianel.

"Mae'n glir o'n sgyrsiau gydag aelodau seneddol dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys Swyddfa Cymru, bod y mwyafrif yn gwrthwynebu unrhyw ymdrech i dorri ymhellach.

Image caption Mae cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod angen i bobl Cymru wneud penderfyniadau ynglŷn ag S4C

Penodi cadeirydd

"Ond eto, mae gyda ni weinidogion yn yr adran ddiwylliant yn Llundain yn gwneud y penderfyniadau, er, nad oes ots gyda nhw am Gymru, heb sôn am y Gymraeg," meddai.

"Dylai penderfyniadau dros y cyfryngau yng Nghymru gael eu gwneud gan bobl Cymru - mae'n bryd datganoli darlledu."

Yn ôl Hywel Williams, aelod Plaid Cymru Arfon, mae pawb yn rhannu'r pryder am arian S4C, ond fe bwysleisiodd bod rhaid sicrhau na fyddai Llywodraeth Cymru ar ei cholled yn ariannol oherwydd datganoli.

"Os yw darlledu yn cael ei ddatganoli mae angen sicrhau bod yr arian yno hefyd."

Mae Swyddfa Cymru wedi dweud ei bod yn disgwyl y bydd cadeirydd ar gyfer yr adroddiad i gylch gorchwyl a chyllid S4C yn cael ei benodi erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, ac y dylai'r adolygiad gael ei gwblhau erbyn diwedd 2017.