Ffydd yn yr economi

Mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi ymhlith yr atyniadau ymwelwyr mwyaf poblogaidd yng Nghymru gyda dros chwarter miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn. Image copyright Siôn Brynach
Image caption Mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi ymhlith yr atyniadau ymwelwyr mwyaf poblogaidd yng Nghymru gyda dros chwarter miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn.

Oes gan gapeli ac eglwysi Cymru ran i'w chwarae wrth ddenu rhagor o ymwelwyr i Gymru?

Dyna gwestiwn gafodd ei ofyn yn ddiweddar gan Mike Hedges, Aelod Cynulliad Dwyrain Abertawe.

Awgrymodd Mr Hedges fod gan Gymru etifeddiaeth grefyddol "gyfoethog a dylanwadol".

Cafodd Cymru Fyw olwg ar ambell i enghraifft:


Yn ei glasur, Hanes Cymru, mae John Davies yn adrodd hanes dyn a brynodd hen gapel yng Nghwm Cynon ac ar ôl ei droi'n dŷ, yn ychwanegu 'spent' i'r enw gwreiddiol, Penuel. Does dim dwywaith nad oes gan Gymru mwy na'i siâr o adeiladau eglwysig - miloedd lawer - ac yn ôl rhai y dwysedd uchaf o gapeli ac eglwysi yng ngorllewin Ewrop o'i gymharu â'i phoblogaeth.

Wrth i nifer yr addolwyr grebachu dros yr hanner canrif ddiwethaf mae nifer cynyddol o'r adeiladau hyn yn cael eu cau ar gyfer addoliad a'u hail-ddefnyddio at ddibenion eraill, fel cartrefi a busnesau.

Image caption Wrth i nifer yr addolwyr grebachu dros yr hanner canrif ddiwethaf mae nifer o'r adeiladau hyn yn cael eu defnyddio at ddibenion eraill, fel cartrefi a busnesau

Ond tybed a oes defnydd i'r adeiladau hefyd fel atyniadau twristaidd, a llefydd ar gyfer adrodd hanesion rhai o gymeriadau amlycaf Cymru dros y canrifoedd? Yn 2013 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Cymru ar Dwristiaeth Cred a bu sawl datblygiad ers hynny yn cynnwys sefydlu llwybr troed maith Ffordd y Sistersiaid a fydd yn y pen-draw yn cysylltu holl safleoedd yr Urdd Fynachaidd honno yng Nghymru.

Mae'r Rhwydwaith Eglwysi Agored yng nghyffiniau Wrecsam a gogledd-ddwyrain Cymru hefyd yn mynd o nerth i nerth gydag 16 o eglwysi bellach yn rhan o'r cynllun a Thaith Pererin Gogledd Cymru yn ymestyn 130 o filltiroedd o Ddinas Basing (Basingwerk Abbey) hyd at Ynys Enlli.

Mae'n bosib fodd bynnag mai ar gyrion y Bala y mae un o'r enghreifftiau gorau o adeilad eglwysig yn cael ei ddefnyddio fel atyniad twristaidd. Yn 2003, penderfynodd yr Eglwys yng Nghymru nad oedd hi'n bosibl cynnal sawl adeilad eglwysig yn y fro ac fe gafodd adeilad Eglwys St Beuno, Llanycil ei gau.

Beibl Mary Jones

Roedd yr adeilad yn un hanesyddol, yn enwedig gan bod y Parch Thomas Charles, sylfaenydd Cymdeithas y Beibl, wedi ei gladdu yn y fynwent. Roedd dipyn o lawenydd felly pan ddaeth yr eglwys yn eiddo i Gymdeithas y Beibl yn 2007.

"Roedd yr adeilad yn arwyddocaol iawn i Gymdeithas y Beibl oherwydd y cyswllt gyda Thomas Charles" esbonia Nerys Siddell, Rheolwr a Swyddog Addysg y Ganolfan.

"Penderfynodd y Gymdeithas y dylid sefydlu amgueddfa yno i adrodd hanes Mary Jones a gerddodd 26 milltir o Lanfihangel-y-Pennant i'r Bala er mwyn prynu Beibl a hithau yn ddim ond 15 oed."

Cafodd Canolfan Byd Mary Jones ei hagor ym mis Hydref 2014, dau gan mlynedd ers marw Thomas Charles. Mae pedwar yn gweithio yn y ganolfan, a rhwng 15 ac 20 o wirfoddolwyr yn cynorthwyo hefyd.

Image caption Cyfle i ddysgu mwy am Mary Jones a'i Beibl yn Eglwys Llanycil

"Dros y ddwy flynedd ers i'r ganolfan gael ei hagor, 'dyn ni wedi croesawu dros 12,000 o ymwelwyr. Mae rhai ohonyn nhw yn grwpiau lleol. Mae hi wedi bod yn wych cael croesawu plant ysgol yma hefyd, a'u cyflwyno i hanes Mary Jones a roddodd gymaint o bwys ar gael ei Beibl ei hun nôl ym 1800" eglurodd Nerys Siddell.

"'Dyn ni wedi cael ymwelwyr o bedwar ban byd, gyda rhai yn dod yma'n fwriadol fel rhan o daith ehangach. Mae'n braf iawn medru croesawu ymwelwyr tramor ac o du hwnt i glawdd Offa, ac yna eu gweld yn aros yn yr ardal ar ôl ymweld â Byd Mary Jones.

"Mae'n nhw'n cael cyfle i ddod i adnabod yr ardal brydferth a chroesawgar hon yn well, ac yn eu tro yn cyfrannu ar yr economi leol hefyd".

"Rwy'n amau a fuasai Mary wedi dychmygu'r fath beth pan gerddodd y 26 milltir i'r Bala ym 1800 ar ôl cynilo ei cheiniogau prin am 6 mlynedd i brynu ei Beibl!

Potensial Aruthrol

Eto i gyd, mae 'na botensial aruthrol o ran datblygu'r maes ymhellach yn ôl yr arbenigwr twristiaeth, yr Athro Terry Stevens.

"Mae yna eisoes stoc helaeth o adeiladau eglwysig sydd ddim yn cael eu defnyddio at ddibenion addoliad, ac mae angen meddwl am ddefnydd arall iddyn nhw - eu troi yn dai, yn westai neu hyd yn oed llety syml i feicwyr o bosib.

Mae o hefyd yn gweld lle i fanteisio a hithau yn Flwyddyn Chwedlau Cymru:

"Mae yna gymaint o ffigurau chwedlonol sy'n gysylltiedig â chapeli ac eglwysi Cymru. Un o'r capeli agosaf at fy swyddfa i yw capel Moriah, Casllwchwr lle cafodd Evan Roberts, un o arweinwyr diwygiad 1904, ei fagu a lle mae bellach wedi ei gladdu.

Image copyright Geograph/Jaggery
Image caption Capel Moriah, Casllwchwr lle cafodd Evan Roberts, un o arweinwyr diwygiad 1904, ei fagu

"Rwy'n gweld o leiaf ddau fws yr wythnos y tu allan i'r capel hwnnw yn llawn ymwelwyr tramor. Byddai'n wych gweld y gymuned leol, ac yn wir yr Awdurdod Lleol, yn manteisio ar y cyfleoedd twristaidd sy'n gysylltiedig â safle mor arwyddocaol."

"Mae yna safloedd eraill cyfagos fel capel Mynydd Bach lle mae bedd awdur Calon Lan, Daniel James a chyn gapel Bethesda yn Abertawe lle mae'r pregethwr Methodistaidd enwog Christmas Evans wedi ei gladdu.

"Mae'r agenda iechyd a lles yn dod yn gynyddol bwysig hefyd o ran twristiaeth, ac mae yna le allweddol gan yr adeiladau hyn o ran hybu lles corff, meddwl ac enaid ymwelwyr - dim ond i'r potensial gael ei gydnabod a'i ddatblygu."

"Mae'r posibiliadau ar draws Cymru gyfan yn aruthrol a'r storiau sy'n gysylltiedig â chapeli ac eglwysi yn ffordd wych o adrodd hanes Cymru a'r Cymry."