Apêl wedi i yrrwr adael safle gwrthdrawiad yn Llanelli

heddlu

Mae'r heddlu yn apelio wedi i yrrwr car adael lleoliad gwrthdrawiad cyn i'r awdurdodau gyrraedd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng y car a beic modur ar College Hill, Llanelli, tua 15:45 ddydd Sadwrn.

Cwympodd y dyn oedd yn gyrru y beic oddi ar ei fodur, ac mae yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth wedi iddo anafu ei ben.

Mae'r heddlu yn awyddus i siarad gyda gyrrwr car teulu arian y maen nhw'n credu oedd yn rhan o'r digwyddiad.