Caerdydd 0-1 Norwich

Cameron Jerome a Sol Bamba Image copyright Getty Images
Image caption Cameron Jerome - gynt o Gaerdydd - roddodd Norwich ar y blaen

Colli wnaeth Caerdydd ddydd Sadwrn mewn gêm glos yn erbyn Norwich.

Cyn ymosodwr yr Adar Gleision, Cameron Jerome, sgoriodd unig gôl y gêm i'r ymwelwyr rai munudau cyn diwedd yr hanner cyntaf.

Roedd Caerdydd wedi ennill eu tair gêm gynghrair gartre' ddiwethaf cyn hon, ond fe fethon nhw â rhoi'r bêl yn rhwyd y Canaries, er iddyn nhw gael mwy o'r meddiant a mwy o ergydion.

Mae tîm Neil Warnock bellach yn 15ed yn y tabl, gyda 36 o bwyntiau.