Gostyngiad o 7% yn nifer y ceisiadau prifysgol o Gymru

myfyriwr Image copyright PA

Mae nifer y darpar fyfyrwyr o Gymru sydd wedi gwneud cais i ddechrau cyrsiau prifysgol yn 2017 wedi gostwng 7%.

Fe wnaeth 19,620 o Gymry gais i brifysgolion ym Mhrydain eleni, o'i gymharu â'r 21,130 a ymgeisiodd yn 2016.

Mae nifer y ceisiadau y mae prifysgolion Cymru wedi ei dderbyn hefyd 9% yn is - gyda gostyngiad yn y niferoedd o'r DU, yr Undeb Ewropeaidd a thu hwnt.

Dywedodd UCAS, y corff sydd yn gyfrifol am brosesu'r ceisiadau, ei bod hi'n "amgylchedd recriwtio anodd" i brifysgolion.

Mae'r ffigyrau'n achos pryder, medd undeb myfyrwyr NUS Cymru, yn rhannol oherwydd costau byw cynyddol i fyfyrwyr.

Ychwanegodd Llywodraeth Cymru bod ansicrwydd yn dilyn Brexit hefyd wedi effeithio ar nifer yr ymgeiswyr o'r UE.

Llai o ymgeiswyr meddygol

Roedd pynciau technolegol, meddygol, ieithoedd a hanes ymysg y rheiny lle bu gostyngiad sylweddol yn nifer y Cymry oedd wedi ymgeisio ar eu cyfer.

Dim ond gostyngiad bychan oedd yn nifer yr ymgeiswyr 18 oed o Gymru, ond roedd y niferoedd dipyn yn is ar gyfer ymgeiswyr hŷn.

Mae'r gostyngiad o 7% yn nifer y ceisiadau o Gymru ar gyfer 2017 yn uwch nag unrhyw wlad arall yn y DU.

Fe wnaeth nifer y ceisiadau o Loegr ostwng 6%, roedd y cyfanswm yng Ngogledd Iwerddon 5% yn is, ac fe ddisgynnodd y canran o geisiadau o'r Alban 2%.

'Byd gwaith yn lle prifysgol'

Roedd llai o ddarpar fyfyrwyr hefyd wedi gwneud ceisiadau i brifysgolion Cymru, gyda'r cyfanswm yn gostwng o 70,250 y llynedd i 64,130 eleni.

Dywedodd prif weithredwr UCAS, Mary Curnock Cook ei bod hi'n "galonogol" bod nifer yr ymgeiswyr 18 oed yn parhau'n uchel, er y gostyngiad ar y cyfan.

"Fodd bynnag, rydyn ni'n gweld cwymp mawr yn yr ymgeiswyr hŷn, yn rhannol oherwydd bod recriwtio cryf ymysg pobl ifanc yn y blynyddoedd diweddar wedi lleihau nifer yr ymgeiswyr aeddfed posib," meddai.

"Mae hefyd siŵr o fod yn adlewyrchu'r ffaith bod mwy mewn gwaith, yr isafswm cyflog uwch a mwy o gyfleoedd prentisiaethau."

Image caption Roedd pynciau technolegol, meddygol, ieithoedd a hanes ymysg y rheiny lle bu gostyngiad sylweddol yn nifer y Cymry oedd wedi ymgeisio ar eu cyfer

Dywedodd llywydd NUS Cymru, Fflur Elin bod y ffigyrau'n achos siom: "I lawer o ddarpar-fyfyrwyr, mae costau byw'n rhwystr enfawr i gael mynediad i addysg uwch.

"Ry' ni'n gwybod bod myfyrwyr yn wynebu costau uwch mewn pob math o feysydd, o drafnidiaeth i rentu, i filiau ac adnoddau fel llyfrau cwrs. Yn ychwanegol at hynny, fe allai costau byw godi ymhellach wedi i'r DU adael yr UE.

"Dyma'n union pam mae angen system addysg uwch Gymreig yng Nghymru, sy'n cwrdd â gofynion ein cymunedau ni.

"O ystyried y refferendwm fis Mehefin diwethaf, rhaid i ni hefyd sicrhau fod Cymru'n lle deniadol a chroesawgar i fyfyrwyr o'r UE a myfyrwyr rhyngwladol eraill i astudio."

'Gweithredu ar frys'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er bod gostyngiad bychan wedi bod o'i gymharu â llynedd, mae nifer y bobl 18 oed sydd yn ymgeisio am le prifysgol yn parhau yn uchel o'i gymharu â phatrwm y blynyddoedd cynt, ac rydyn ni'n disgwyl i fwy o fyfyrwyr ddefnyddio'r system Glirio.

"Fodd bynnag, gydag ansicrwydd dros berthynas hir dymor y DU a'r UE, rydyn ni wedi gweld cwymp yn nifer y myfyrwyr o'r UE sydd yn ymgeisio i astudio yng Nghymru.

"Rydyn ni'n glir bod croeso o hyd i fyfyrwyr o bob cwr o'r UE ym mhrifysgolion Cymru."

Yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Llŷr Gruffydd, mae angen "gweithredu ar frys" i fynd i'r afael â nifer y myfyrwyr sy'n dewis gadael Cymru i astudio yn Lloegr.

"Rhaid gwneud mwy i annog myfyrwyr i aros neu ddychwelyd i Gymru i astudio. Rhaid i ni gadw talent yn lle colli talent," meddai.