Caerdydd 2-0 Preston North End

Caerdydd Preston Image copyright Getty Images
Image caption Kenneth Zohore yn sgorio ail gôl Caerdydd, ag yntau'n dathlu ei ben-blwydd yn 23 oed

Roedd hi'n fuddugoliaeth gyfforddus i Gaerdydd gartref yn erbyn Preston.

Fe ddaeth y ddwy gôl yn yr hanner cyntaf, wrth i Peter Wittingham daro cefn y rhwyd o gic o'r smotyn wedi 18 munud, cyn i Kenneth Zohore sgorio 10 munud yn ddiweddarach. Anrheg pen-blwydd perffaith i'r gŵr o Ddenmarc, ag yntau'n dathlu troi'n 23 oed.

Roedd y canlyniad yn ergyd i obeithion Preston o gyrraedd y gemau ailchwarae. Dim ond un o'u naw gêm ddiwethaf oddi cartref roedden nhw wedi ei cholli cyn hon.

Mae tîm Neil Warnock bellach 11 pwynt yn glir o'r safleoedd peryglus, ac yn y 15fed safle yn y Bencampwriaeth.