S4C: 'Methu torri rhagor'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Ian Jones: 'Methu torri rhagor' ar S4C

31 Ionawr 2017 Diweddarwyd 10:41 GMT

Mae Prif Weithredwr S4C, Ian Jones, wedi rhybuddio bod y sianel methu gwneud mwy o doriadau heb effeithio ar raglenni.

Dywedodd wrth Newyddion 9 bod y sianel wedi "diodde' toriadau dychrynllyd" ond eu bod bellach yn "methu torri rhagor heb amharu ar be' sydd ar y sgrin".

Roedd yn siarad wedi iddo ddweud gerbron pwyllgor seneddol ddydd Llun bod S4C yn wynebu cyfnod o "ansicrwydd ariannol".