Adran 2: Casnewydd 3-1 Hartlepool

Casnewydd v Hartlepool Image copyright Athena
Image caption Ryan Bird sgoriodd gôl gyntaf y gêm yn erbyn ei gyn-glwb

Fe wnaeth Ryan Bird sgorio un a chreu gôl arall ar ei ymddangosiad cyntaf i Gasnewydd wrth iddyn nhw drechu Hartlepool yn Rodney Parade.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wrth i'r ymosodwr 29 oed benio i'r rhwyd, cyn iddo groesi at Aaron Williams i ddyblu'r fantais ar ddechrau'r ail hanner.

Fe wnaeth foli Dan Butler i gornel ucha'r rhwyd sicrhau'r triphwynt i Gasnewydd cyn i Padraig Amond sgorio gôl hwyr i'r ymwelwyr.

Mae'r clwb o dde Cymru'n parhau ar waelod Adran 2, ond mae'r canlyniad yn golygu ei bod nawr o fewn tripwhynt i symud allan o safleoedd y cwymp.