Y Bencampwriaeth: Reading 2-1 Caerdydd

Reading v Caerdydd Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Yann Kermorgant yn rhwydo o gic rydd i ennill y gêm i Reading

Mae Caerdydd yn aros yn yr 16eg safle yn y Bencampwriaeth ar ôl cael eu trechu gan Reading yn Stadiwm Madejski.

Fe wnaeth Joe Ralls daro'r postyn i'r ymwelwyr cyn i John Swift roi Reading ar y blaen.

Ond roedd Caerdydd yn gyfartal cyn diwedd yr hanner cyntaf wrth i Ralls sgorio o'r smotyn ar ôl i Liam Moore faglu Sean Morrison.

Ond y tîm cartref aeth ymlaen i hawlio'r triphwynt, gyda Yann Kermorgant yn sgorio o gic rydd ar ôl trosedd arno gan Sol Bamba.