Canslo gornest y bocsiwr Lee Selby yn Las Vegas

Lee Selby Image copyright Getty Images
Image caption Roedd Lee Selby bron yn ei ddagrau ar y llwyfan ar ôl i'r ornest gael ei chanslo

Mae gornest Lee Selby yn erbyn Jonathan Victor Barros yn Las Vegas wedi'i chanslo.

Cafodd y penderfyniad ei gyhoeddi ar y llwyfan cyn i'r ddau gael eu pwyso ddydd Gwener, ychydig dros 24 awr cyn yr oedd yr ornest i fod i ddechrau.

Ni wnaeth Comisiwn Athletaidd Nevada roi rheswm, dim ond nad oedd y bocsiwr o Ariannin wedi cwrdd â'u gofynion.

"Dyma oedd y llwyfan mwyaf, fy nghyfle i serennu," meddai Selby wedi i'r ornest gael ei chanslo.

"Ond coeliwch chi fi, fe fyddai 'nôl."

Roedd y gŵr 29 oed o'r Barri i fod yn amddiffyn ei goron pwysau plu IBF y byd nos Sadwrn, a hynny yn ei ornest gyntaf yn Las Vegas.

Image copyright Getty Images
Image caption Doedd Jonathan Victor Barros (chwith) ddim wedi cwrdd â gofynion Comisiwn Athletaidd Nevada

Prif ornest nos Sadwrn fydd Carl Frampton o Ogledd Iwerddon - pencampwr pwysau plu WBA y byd - yn erbyn Leo Santa Cruz.

Roedd Selby yn gobeithio wynebu'r enillydd pe bai'n llwyddo i guro Barros, gyda Frampton yn dweud ei fod yn awyddus.

Gallai'r datblygiadau diweddaraf fod yn ergyd i hynny, ond mae Selby yn parhau'n obeithiol ar y syniad.

"Gobeithio y byddai'n gallu bod 'nôl wrthi'n syth, a sicrhau buddugoliaeth sydyn," meddai.

"Byddwn i wedyn yn anelu at herio enillydd Frampton-Santa Cruz."

Image copyright Getty Images
Image caption Bydd Carl Frampton o Ogledd Iwerddon yn cymryd rhan yn y brif ornest nos Sadwrn