Alex Jones wedi rhoi genedigaeth i fachgen bach

Alex Jones Image copyright Getty Images

Mae cyflwynwraig rhaglen The One Show, Alex Jones wedi cyhoeddi ei bod wedi rhoi genedigaeth i fachgen bach dros y penwythnos.

Rhannodd y newyddion ar Twitter gan ddweud: "Rydyn ni mor hapus i rannu'r newyddion bod ein bachgen bach prydferth wedi cael ei eni fore Sul, 7 pwys 11."

Dyma blentyn cyntaf y cyflwynydd 39 oed o Frynaman a'i gŵr Charlie Thomson, a daw yn dilyn eu priodas ym mis Rhagfyr 2015.

Dydyn nhw ddim wedi cyhoeddi enw'r plentyn eto.

Fe wnaeth Ms Jones astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac roedd hi'n cyflwyno ar S4C am flynyddoedd cyn symud i Lundain gyda'r BBC.