Llygoden fawr yn cau ysgol gynradd Thomas Ellis ym Môn

Ysgol y Parchedig Thomas Ellis Image copyright Google

Mae un o ysgolion cynradd Môn wedi cau ar ôl i staff ganfod llygoden fawr yn yr adeilad.

Y gred yw bod Ysgol y Parchedig Thomas Ellis yng Nghaergybi wedi cau wedi i swyddogion iechyd yr amgylchedd ymweld â'r ysgol ddydd Llun. Mae disgwyl iddi ail-agor ddydd Gwener.

Fe fydd yr ysgol yn cau yn barhaol yn yr haf cyn i Ysgol Cybi agor ei drysau ym mis Medi ar gost o £10m.

Yn ôl Ailia Lewis, sy'n ddynes lolipop ac yn un o lywodraethwyr yr ysgol, fe gafodd y llygoden ei gweld gan un o'r glanhawyr.

Dywedodd wrth y Post Cyntaf: "Mae'r plant yn falch o fod bant o'r ysgol ... mae'r pethau 'ma yn digwydd a gwell iddynt aros adref.

"Mae'n ysgol dda ac nid oes problem wedi bod gyda llygod yn y gorffennol."

Ychwanegodd bod y cyngor wedi trefnu pobl i lanhau'r ysgol.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Môn: "Fe ymwelodd swyddogion iechyd yr amgylchedd ag Ysgol y Parchedig Thomas Ellis ar ôl i aelod o staff weld y llygoden ddydd Llun.

"Ar hyn o bryd rydym yn delio â'r broblem ac fe fydd swyddogion yn parhau i gadw llygad ar bethau yn ystod y dyddiau nesaf."