Chwilio am ddyn wedi ymosodiad cyllell yn Nhreganna

ymosodiad Image copyright Google
Image caption Digwyddodd yr ymosodiad ar Ffordd Ddwyreiniol y Bontfaen yn Nhreganna

Mae'r heddlu yng Nghaerdydd yn chwilio am ddyn wedi i ddau ddyn gael eu hanafu'n ddifrifol mewn ymosodiad cyllell.

Mae'n debyg i rywun ymosod ar ddau ddyn gyda chyllell yn ystod cythrwfl rhwng grwp o ddynion yn Nhreganna tua 21:00 nos Sadwrn.

Cafodd dau ddyn 22 a 23 oed eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad y tu allan i siop Tesco ger tafarn yr Ifor Davies ar Ffordd Ddwyreiniol y Bontfaen.

Mae'r dyn sy'n cael ei amau o gynnal yr ymosodiad yn cael ddisgrifio fel dyn du, tua 5'5" o daldra, oedd yn gwisgo hwdi a throwsus tywyll.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Mae'r ddau ddyn yn lwcus nad oedd eu hanafiadau'n fwy difrifol."