Cwpan Her: Gleision a'r Gweilch drwyddo

Gleision Bryste Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Matthew Morgan yn tirio'r bêl i sgorio'r cais cyntaf i'r Gleision

Roedd hi'n gêm gofiadwy ac yn fuddugoliaeth gwbwl haeddiannol i'r Gleision yn erbyn Bryste ar Barc yr Arfau, gyda'r tîm cartre'n sicrhau eu lle yn rownd ola'r Cwpan Her Ewrop.

Am awr, cael a chael oedd hi, gyda Bryste a'u mewnwr bywiog Andy Uren yn ysbrydoliaeth.

Gareth Anscombe a Christian Dacey hawliodd geisiau'r hanner cyntaf gyda'r Cymro Jordan Williams a Jack Tovey yn ymateb i'r ymwelwyr

Y cefnwr Matthew Morgan oedd arwr yr ail hanner.

Fe gyfrannodd yn gyson a'i redeg pwrpasol, a chroesodd am ddau gais, gyda'r ail yn un a fydd yn destun siarad am flynyddoedd i ddod.

Gêm oddi cartref sy'n wynebu'r Gleision yn rownd wyth ola'r gystadleuaeth.

Image copyright Rex Features
Image caption Roedd Newcastle ar y blaen o 21-7 yn erbyn y Gweilch ar yr hanner

Llwyddodd y Gweilch hefyd i sicrhau eu lle yn yr wyth olaf, a hynny ar ôl brwydro'n ôl i gipio buddugoliaeth wedi dechrau cryf gan Newcastle.

Wedi cais cynnar i Rhys Webb yn yr hanner cyntaf, fe sgoriodd Daniel Temm, Rob Vickers a Chris Harris i'r Falcons cyn yr hanner, gan fynd a'r tîm cartref ar y blaen o 21 i 7.

Ond, fe gododd y Gweilch i'r her yn yr ail hanner wrth i Hanno Dirksen, Sam Davies a Scott Otten groesi am geisiau.

Y Gweilch yw prif ddetholion wrth symud ymlaen i'r wyth olaf, a nhw yw'r tîm cyntaf erioed i sicrhau'r uchafswm o 30 pwynt yn y gemau grŵp mewn cystadleuaeth ddomestig Ewropeaidd.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Ed Jackson o'r Dreigiau yn brwydro drwy amddiffyn Brive

Ond roedd 'na siom i'r Dreigiau wrth iddyn nhw golli'n drwm allan yn Brive.

Roedd yr ymwelwyr 15 pwynt i lawr wedi chwarter awr o'r gêm cyn brwydro'n ôl gyda cheisiau gan Tavis Knoyle and Sarel Pretorius.

Doedd eu hymdrechion ddim yn ddigon serch hynny. Y sgôr terfynol Brive 36 - 19 Dreigiau.