Caerdydd 1-0 Burton Albion

Caerdydd Burton Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Rhys Healey'n penio'r bêl i'r rhwyd yn y munudau olaf

Enillodd Caerdydd ei thrydedd buddugoliaeth o'r bron yn y bencampwriaeth dydd Sadwrn, diolch i gôl hwyr gan yr eilydd Rhys Healey.

Mewn gêm oedd yn brin o gyfleoedd, gadawodd yr Adar Gleision hi'n hwyr cyn i Healey, sydd ar fenthyg o Gasnewydd, sgorio'i gôl gyntaf yn y Bencampwriaeth funud i mewn i'r amser ychwanegol.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Caerdydd yn codi i'r 16eg safle, ond fe all tîm Neil Warnock fod yn ddiolchar iddyn nhw ennill gêm siomedig.