Garej yng Nghasnewydd i'w dymchwel wedi tân

Tân Image copyright Google

Mae ymchwiliad wedi dechrau i dân mewn garej atgyweirio ceir yng Nghasnewydd.

Fe y gwasanaethau brys eu galw am 01:15, a bu pump injan dân a 35 o ymladdwyr tân yn delio â'r fflamau mewn adeilad ar Ffordd San Steffan yn ardal Pillgwenlli.

Cafodd ffrwydradau eu clywed yn dod o'r adeilad gan bobl oedd yn byw'n agos.

Fe ddisgynnodd y to yn ystod y tân a dywedodd Gwasanaeth Tan ac Achub y De y bydd yn rhaid dymchwel gweddill yr adeilad.