Caerdydd yn arwyddo'r golwr Allan McGregor ar fenthyg

Allan McGregor Image copyright Getty Images
Image caption Mae Allan McGregor wedi ennill 35 cap dros yr Alban

Mae Caerdydd wedi cyhoeddi eu bod wedi arwyddo golwr Hull City, Allan McGregor ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.

Mae McGregor, sy'n 34 oed, wedi ennill 35 cap dros yr Alban ond mae eto i chwarae yn y gôl i'w glwb y tymor hwn.

Fe ymunodd gyda Hull am £1.5m o glwb Beşiktaş yn Nhwrci yn 2013.

Dywedodd rheolwr Caerdydd, Neil Warnock yn gynharach yn yr wythnos ei fod yn awyddus i arwyddo golwr gyda phrofiad yn yr Uwch Gynghrair cyn y gêm yn erbyn Burton Albion ddydd Sadwrn.