Llywodraeth yn 'esgeulus' am lygredd aer Aberddawan

Aberddawan Image copyright Christopher R Ware

Mae Llywodraeth Cymru wedi ei chyhuddo o "esgeulustod" yn y modd y deliodd â phryderon am lygredd aer o orsaf bŵer Aberddawan.

Mae cais rhyddid gwybodaeth wnaed gan Blaid Cymru yn awgrymu na fu unrhyw gyfathrebu ysgrifenedig neu electronig rhwng y Prif Weinidog a'r rheolydd amgylcheddol, Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â'r mater ers Medi 2016.

Fe ddaw hyn yn dilyn dyfarniad gan Lys Cyfiawnder Ewrop bryd hynny fod y safle yn gollwng lefelau anghyfreithlon o lygredd i'r awyr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ei hymrwymo i wella ansawdd aer ar draws y wlad.

Ychwanegodd llefarydd fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dechrau ar broses o ddiweddaru trwydded amgylcheddol Aberddawan.

'Diffyg arweiniad'

Dywedodd Simon Thomas AC, llefarydd Plaid Cymru ar yr amgylchedd fod y ffaith "na all Llywodraeth Cymru ddangos unrhyw ohebiaeth rhwng gweinidogion a Chyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn y dyfarniad yn dangos diffyg arweiniad".

"Mae Llywodraeth Cymru wedi esgeuluso'i dyletswydd i bobl - yng Nghymru a thu hwnt - y mae'r mater hwn yn effeithio arnyn nhw.

"Mae hyn yn cynnwys 600 o weithwyr yn Aberddawan sy'n wynebu ansicrwydd am ddyfodol yr orsaf bŵer, sydd i fod i gael ei his-raddio eleni.

"Mae hefyd yn cynnwys pobl sy'n byw'n agos at yr orsaf bŵer, a rhai sy'n byw mor bell i ffwrdd a Chaerwysg, Bryste, Swindon a Bournemouth, sy'n diodde' o sgil-effeithiau llygredd aer."

Image caption Dyfarnodd Llys Cyfiawnder Ewrop fod Aberddawan wedi gollwng dwywaith y lefel cyfreithlon o ocsidiau nitrogen gwenwynig i'r awyr rhwng 2008 a 2011

Aberddawan ym Mro Morgannwg yw gorsaf bŵer glo fwyaf Cymru, ac un o ddwy yn unig sy'n dal i weithio.

Yn ystod yr achos aeth gerbron y Comisiwn Ewropeaidd, daeth i'r amlwg fod y safle wedi bod yn gollwng dwywaith y lefel cyfreithlon o ocsidiau nitrogen gwenwynig i'r awyr rhwng 2008 a 2011.

Cafodd Llywodraeth Prydain orchymyn i dalu costau cyfreithiol, ac fe allai wynebu dirwyon pellach os yw lefelau'n parhau i dorri cyfraith yr UE.

Dywedodd rheolwyr y safle, RWE, ar y pryd eu bod yn "siomedig" â chanlyniad yr achos a bod amddiffyn yr amgylchedd yn flaenoriaeth iddyn nhw.

Effaith ar iechyd

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru a Greenpeace wedi galw am gau'r safle yn barhaol oherwydd honiadau fod allyriadau yn effeithio ar iechyd.

Honnodd dau adroddiad gan gyrff amgylcheddol y llynedd ei bod hi'n debygol fod 400 o bobl wedi marw cyn eu hamser yn y DU y llynedd o ganlyniad i ryddhau ocsid nitrogen o Aberddawan.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth BBC Cymru mai mater i Gyfoeth Naturiol Cymru oedd hi i addasu trwydded amgylcheddol Aberddawan o ganlyniad i ddyfarniad y Llys Ewropeaidd: "Mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes wedi ysgrifennu at RWE... i ddechrau ar y camau hyn, ac mae wedi gwneud cais ffurfiol am eglurhad o gynlluniau cydsynio RWE.

"Mae'n hymrwymiad i wella ansawdd awyr ar draws Cymru'n parhau a byddwn yn parhau i fynd i'r afael ag allyriadau o ffynonellau diwydiannol.

"Dylai RWE fwrw mlaen i gyflwyno'r gostyngiadau allyriadau angenrheidiol yn Aberddawan yn ddi-oed."

Rhoi tystiolaeth

Mae disgwyl i gynrychiolwyr o Gyfoeth Naturiol Cymru roi tystiolaeth gerbron ymchwiliad i ansawdd aer yng Nghymru gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad ddydd Mercher.

Dywedodd llefarydd ar ran y corff eu bod yn "ystyried dyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop, a'r goblygiadau i'r modd yr ydym yn rheoleiddio gorsaf bŵer Aberddawan".

"Rydym wedi ysgrifennu at RWE Generation UK plc yn eu hysbysu o'n bwriad i adolygu ac addasu'r drwydded amgylcheddol, ac wedi gofyn am wybodaeth gan y cwmni i'n hysbysu o'r amrywiad.

"Rydym yn aros am ymateb gan RWE Generation i'r cais yma am wybodaeth."

Y llynedd, datgelodd BBC Cymru fod RWE yn bwriadu israddio'r safle o Ebrill 2017 ymlaen, fel ei fod yn cynhyrchu trydan ar yr adegau prysuraf yn unig.

Dywedodd RWE bod swyddogion yn gweithio gyda CNC i addasu'r drwydded amgylcheddol.

Ychwanegodd llefarydd bod amodau i orsafoedd glo yn "parhau yn anodd iawn", ond bod y cwmni'n ffyddiog y gallai'r orsaf barhau i "gefnogi sicrwydd cyflenwad a swyddi lleol yn y blynyddoedd i ddod".