Cynghorwyr Llafur yn cefnogi Dinas-Ranbarth Caerdydd

Mae'r grŵp Llafur ar Gyngor Caerdydd wedi penderfynu cefnogi'r Fargen Dinas-Ranbarth.
Yn ôl yr hyn y mae'r BBC yn ei ddeall, fe bleidleisiodd cynghorwyr o 25 i 6 o blaid y syniad nos Lun.
Roedd 'na bryderon y byddai sicrhau cefnogaeth y grŵp yn dalcen caled i arweinydd y cyngor, Phil Bale.
Nawr bydd y cynnig yn mynd gerbron y cyngor llawn ar 26 Ionawr, ble mae disgwyl iddo gael ei basio gyda chefnogaeth Llafur a'r Ceidwadwyr.
Byddai Bargen Dinas-Ranbarth Caerdydd yn dod â £1.2biliwn o gyllid llywodraeth leol, Cymru a'r DU er mwyn hybu twf economaidd am 20 mlynedd.
Mae angen i Gaerdydd a naw cyngor arall gadarnhau eu cyllid nhw ar gyfer y cynllun erbyn 9 Chwefror.
Metro newydd
Fe bleidleisiodd grŵp Llafur y cyngor o blaid cael Caerdydd i gyfrannu 23.7% o'r cyllid gan yr awdurdodau lleol, werth £2.5m y flwyddyn am y deng mlynedd cyntaf.
Byddai'n cyfraniad wedyn yn cynyddu i £3.2m, cyn gostwng unwaith eto.
Mae prosiectau posib sydd wedi'u cefnogi gan y grŵp Llafur yn cynnwys arena 15,000 sedd, ail ran ffordd gyswllt Dwyrain y Bae, a safleoedd parcio a theithio fel rhan o'r system Metro newydd.
Os yw arweinyddiaeth y cyngor yn newid dwylo yn etholiadau mis Mai, ni fyddai'n rhaid i'r weinyddiaeth newydd gefnogi'r prosiectau.
Ond byddai'r cytundeb yn golygu bod y cyngor wedi ymrwymo i'r cyfraniadau ariannol.
Ym mis Rhagfyr codwyd pryderon ymysg rhai o uwch swyddogion llywodraeth leol a fyddai cynghorwyr Caerdydd yn cefnogi'r fargen cyn etholiadau mis Mai.
Roedd pryder na fyddai arweinydd Cyngor Caerdydd, Phil Bale yn llwyddo i berswadio digon o gynghorwyr i gefnogi'r fargen.
Mae disgwyl i'r naw cyngor arall ddatgan eu cefnogaeth i'r cyfraniadau.
Mae'r fargen yn cynnwys £734m ar gyfer Metro De Cymru, gan wella trafnidiaeth trên a bws yn y brifddinas a'r cymoedd.
Gyda 10 awdurdod lleol yn cydweithio, y gobaith yw creu 25,000 o swyddi a denu £4bn o fuddsoddiad o'r sector breifat.
Yn gynharach yn y mis fe wnaeth arweinwyr y 10 cyngor ddatgan eu cefnogaeth i adroddiad oedd yn amlinellu blaenoriaethau'r fargen.