Howley yn cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

Alun Wyn Jones Image copyright Getty Images
Image caption Mae Alun Wyn Jones wedi ennill 111 o gapiau rhyngwladol

Mae'r clo Alun Wyn Jones wedi cymryd lle Sam Warburton fel capten Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2017.

Mae cyfnod chwe blynedd Warburton fel capten wedi dod i ben, wrth i'r hyfforddwr Rob Howley alw saith chwaraewr i'r garfan sydd heb ennill cap rhyngwladol eto.

Mae'r 36 o chwaraewyr yn cynnwys enwau newydd i'r garfan, fel blaenasgellwr clwb Wasps, Thomas Young, maswr Caerlŷr, Owen Williams ac asgellwr y Dreigiau, Ashton Hewitt.

Dyw asgellwr ifanc y Gweilch, Keelan Giles ddim yn y garfan oherwydd anaf, tra bo George North, Jamie Roberts a Taulupe Faletau yn parhau fel y tri chwaraewr sy'n cael eu dewis dan 'Reol Gatland'.

Mae Jones, sydd eisoes yn gapten ar ranbarth y Gweilch, wedi bod yn gapten ar Gymru ar ambell achlysur yn barod pan nad yw Warburton wedi bod ar gael.

Ynghyd â Justin Tipuric a Ross Moriarty, mae Young yn rhoi pwysau ar y cyn-gapten i gadw ei le yn y tîm.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae Thomas Young yn chwarae o dan ei dad a chyn-gapten Cymru, Dai yng nghlwb Wasps

Mae mewnwr y Gweilch, Rhys Webb yn rhan o'r garfan er nad yw wedi chwarae ers anafu ei ffêr yn erbyn Awstralia ym mis Tachwedd.

Gweddill y chwaraewyr yn y garfan sydd heb ennill cap eto yw blaenasgellwr y Gweilch, Olly Cracknell, y clo Rory Thornton, asgellwr y Scarlets, Steffan Evans a'r mewnwr Aled Davies.

Mae prop y Scarlets, Rob Evans yn ôl yn y garfan hefyd, gyda Gethin Jenkins ddim ar gael oherwydd anaf.

Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth Owen Williams, 24, symud i Gaerlŷr o'r Scarlets yn 2013

Carfan Cymru

Blaenwyr: Scott Andrews (Gleision), Nicky Smith (Gweilch), Rob Evans (Scarlets), Rhodri Jones (Gweilch), Tomas Francis (Caerwysg), Samson Lee (Scarlets), Kristian Dacey (Gleision), Ken Owens (Scarlets), Scott Baldwin (Gweilch), Jake Ball (Scarlets), Alun Wyn Jones (Gweilch), Rory Thornton (Gweilch), Luke Charteris (Caerfaddon), Cory Hill (Dreigiau), James King (Gweilch), Justin Tipuric (Gweilch), Olly Cracknell (Gweilch), Ross Moriarty (Caerloyw), Taulupe Faletau (Caerfaddon), Sam Warburton (Gleision), Thomas Young (Wasps).

Olwyr: Gareth Davies (Scarlets), Rhys Webb (Gweilch), Aled Davies (Scarlets), Dan Biggar (Gweilch), Sam Davies (Gweilch), Owen Williams (Caerlŷr), Jamie Roberts (Harlequins), Jonathan Davies (Scarlets), Scott Williams (Scarlets), Ashton Hewitt (Dreigiau), Alex Cuthbert (Gleision), Steffan Evans (Scarlets), George North (Northampton), Liam Williams (Scarlets), Leigh Halfpenny (Toulon).