Corff Afon Gwy yw athro oedd ar goll o Sir Fynwy

Liam Stubbs Image copyright Gwent Police
Image caption Cafodd Liam Stubbs ei weld ddiwethaf yn siop WH Smith yn Nhrefynwy

Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau mai corff dyn oedd ar goll o Sir Fynwy gafodd ei ddarganfod yn Afon Gwy dros y penwythnos.

Cafodd corff Liam Stubbs, 46 oed, ei ddarganfod yng Nghas-gwent tua 10:40 ddydd Sadwrn.

Roedd Mr Stubbs yn gweithio fel athro cynorthwyol yn Ysgol Gyfun Trefynwy.

Mae'r heddlu wedi cadarnhau nad ydyn nhw'n trin y farwolaeth fel un amheus.

Doedd Mr Stubbs ddim wedi cael ei weld ers 13:00 ar ddydd Gwener, 19 Tachwedd.