Gêm ddarbi llawn drama yn Ashton Gate

Image copyright Getty Images
Image caption Anthony Pilkington yn dathlu

Bryste 2-3 Caerdydd

Gêm ddarbi llawn drama oedd hi yn Ashton Gate, wrth i'r Adar Gleision herio tîm Dinas Bryste efo'r gic gyntaf am hanner dydd.

Roedd yr awyrgylch yn drydanol ac fe darodd tîm y brifddinas yn ôl ddwywaith i ennill tri phwynt gwerthfawr efo'r sgôr derfynol - Bryste 2-3 Caerdydd.

Fe ddechreuodd y gêm ar gan milltir yr awr.

Caerdydd aeth agosaf ac roedd Peter Whittingham yn edrych yn fygythiol efo'i groesiadau.

Fe gafodd y ddau dîm eu cyfleoedd ond di-sgôr oedd hi ar yr hanner.

Mae Dinas Bryste wedi cael cyfnod anodd gan golli naw o'u deg gêm ddiwethaf. A hynny ar ôl cael cychwyn mor addawol.

Ar ôl y toriad roedd y ddau dîm yn fywiog a'r Adar Gleision os rhywbeth yn cael y llaw uchaf. Er hynny Bryste aeth ar y blaen ar ôl 51 munud.

Cyffro yn y 10 munud olaf

Ergyd o bell gan Joe Bryan wnaeth y difrod gan daro'r trawst cyn gorffen yng nghefn y rhwyd oddi ar cefn anlwcus y golwr Murphy.

Fe newidiodd Caerdydd eu siâp i 4-4-2 wrth chwilio am gôl i ddod â'r gêm yn gyfartal.

Ac efo chwarter awr ar ôl fe ildiodd Bryste gic gosb wrth i Joe Ralls gael ei faglu yn y bocs. Ergyd fel roced i ganol y gôl gafwyd gan Anthony Pilkington.

O fewn dim roedd y tîm cartref ar y blaen eto efo cic dros ben gan Tammy Abraham.

Ond funudau yn ddiweddarach fe ddaeth Caerdydd yn gyfartal efo peniad gan Kadeem Harris.

Mae gan Bryste duedd i ildio goliau yn hwyr y tymor hwn, a dyna ddigwyddodd eto efo Pilkington yn ergydio yn wych o 25 llath.

Buddugoliaeth arbennig i'r Adar Gleision felly.