Grŵp Llafur yn y Cynulliad yn cymeradwyo Mesur Cymru

Cynulliad a San Steffan

Mae grŵp Llafur yn y Cynulliad wedi penderfynu y byddan nhw'n cefnogi Mesur Cymru mewn pleidlais ddydd Mawrth.

Roedd 'na amheuaeth am agwedd y grŵp tuag at y mesur, gydag un gweinidog yn dweud yr wythnos ddiwetha' nad oedd y blaid yn sicr o estyn ei chefnogaeth.

Ond nawr bod y blaid wedi dewis cefnogi'r mesur, mae'n hynod debygol y bydd y mesur yn cael ei gymeradwyo.

Fe fyddai'r mesur yn caniatáu rhywfaint o bwerau newydd i Gymru, ond mae wedi cael ei feirniadu'n hallt gan rai.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae cymeradwyo Mesur Cymru yn bwysig er mwyn sicrhau grymoedd y Cynulliad mewn cyfnod o ansicrwydd, yn ôl y Farwnes Eluned Morgan AC

Ddydd Mawrth, mae'r Cynulliad yn pleidleisio ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol, sef cynnig i ddangos bod y Cynulliad yn cefnogi deddfwriaeth sy'n ymwneud â meysydd datganoledig ond sy'n cael eu pasio yn San Steffan.

Gyda chefnogaeth debygol y 29 aelod Llafur a'r 11 Ceidwadwr, fe fydd y Cynulliad yn cefnogi Mesur Cymru yn ffurfiol.

Mae UKIP wedi dweud yn barod na fyddan nhw'n cefnogi'r mesur, gan ddweud nad ydyn nhw'n credu y dylai pwerau trethu gael eu datganoli i Gymru heb refferendwm.

Does dim disgwyl i Blaid Cymru wneud penderfyniad tan bod y grŵp yn cyfarfod ddydd Mawrth.

Beth yw Mesur Cymru?

Fe fyddai'r mesur yn cyflwyno system o bwerau sydd wedi eu dal yn ôl yn San Steffan, ond mae'r beirniaid yn dweud ei fod yn aneglur ac y gallai arwain at droi'r cloc yn ôl ar elfennau o ddatganoli.

Ymhlith y pwerau newydd yn y mesur mae:

  • Rhywfaint o bwerau ar reoli treth incwm, heb orfod galw refferendwm
  • Pwerau newydd i'r Cynulliad dros ei materion ei hun - megis etholiadau ac enw'r sefydliad
  • Pwerau newydd mewn meysydd fel ynni a thrafnidiaeth.

Yn sgil penderfyniad y grŵp Llafur nos Lun, dywedodd cadeirydd y grŵp, Hannah Blythyn: "Fel y blaid wnaeth ddod â datganoli i Gymru, mae'n briodol ein bod wedi cymryd safbwynt heriol ond cyfrifol i'r broses o basio Mesur Cymru.

"Nid dyma'r mesur y bydden ni wedi ei ddatblygu, ac nid dyma'r mesur y mae Cymru'n ei haeddu.

"Ond ar ôl pwyso a mesur, fe fydd y mesur yma'n rhoi mwy o bendantrwydd cyfansoddiadol, ac mae'r fframwaith ariannol yn enwedig yn cynrychioli cam mawr ymlaen.

"Yn dilyn dadl ystyriol, mae grŵp Llafur wedi penderfynu pleidleisio o blaid caniatáu i Lywodraeth y DU i fwrw 'mlaen."