Llywydd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam yn ymddiswyddo

Bryn Law
Image caption Mae Bryn Law wedi bod yn Llywydd Ymddiriedolaeth y cefnogwyr ers 2010

Mae llywydd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr clwb pêl-droed Wrecsam, Bryn Law, wedi camu i lawr ac wedi cwestiynu perchnogaeth y cefnogwyr o'r clwb.

Daw penderfyniad Mr Law yn dilyn ymddiswyddiad y prif weithredwr, Don Bircham a chyfarwyddwr y clwb, Barry Horne gyda'r clwb yn 15 safle yn y Gyngres.

Mae Ymddiriedolaeth y cefnogwyr yn berchen ar 100% o'r clwb ond dywedodd Law ei fod yn parhau i gefnogi "delfryd yr Ymddiriedolaeth ond rwyf yn dechrau meddwl tybed a yw'n gweithio yn y ffordd orau i'r clwb."

Roedd Mr Law yn llywydd ymddiriedolaeth y cefnogwyr ers 2010.