Atal hofrenyddion achub rhag hedfan o Gaernarfon

Bristow

Mae dau hofrennydd achub ym Maes Awyr Caernarfon wedi eu gorfodi i beidio â hedfan am y tro er mwyn cynnal archwiliadau diogelwch.

Mae Bristow, y cwmni sy'n rhedeg y gwasanaeth yn archwilio rotorau cefn yr hofrenyddion Sikorsky S92s yn dilyn digwyddiad ar rig olew ym Môr y Gogledd wythnos ddiwethaf pan fu hofrennydd S92 mewn damwain.

Mae gorchymyn wedi dod i archwilio pob hofrennydd S92 ar hyd a lled y byd.

Nid yw dau hofrennydd chwilio arall sydd wedi eu lleoli yn Sain Tathan, Bro Morgannwg, wedi eu heffeithio gan nad hofrenyddion S92 ydyn nhw.