Scarlets 16-13 Ulster

Jonathan Davies Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Jonathan Davies yn cael ei atal gan ddau amddiffynwr

Mae'r Scarlets yn aros ym mhedwar ucha'r Pro 12 ar ôl curo Ulster ym Mharc y Scarlets.

Sgoriodd Ulster unig gais yr hanner cyntaf, yr asgellwr Jacob Stockdale yn manteisio ar fwlch enfawr yn yr amddiffyn.

Yn yr ail hanner fe frwydrodd y Scarlets yn ôl, gan ennill cais cosb dadleuol.

Wrth i Aled Davies geisio croesi'r llinell, fe benderfynodd y dyfarnwr fod yr wythwr Sean Reidy yn euog o dacl uchel.

Cafodd y Scarlets gais cosb, ac fe aeth Reidy i'r gell cosb hefyd.

Fe gafodd Jake Ball o'r Scarlets gerdyn melyn hefyd am dacl uchel yn fuan wedyn - ond y tîm cartref wnaeth elwa fwyaf o benderfyniadau dewr y dyfarnwr.