Gwastraff niwclear: Angen gwrthod mwy pendant medd AC

cloddfa storio gwastraff Image copyright Llywodraeth y DU
Image caption Llun artist o gladdfa barhaol i storio gwastraff niwclear

Mae Aelod Cynulliad wedi dweud y dylai Llywodraeth Cymru fynegi gwrthwynebiad mwy pendant i unrhyw gynlluniau posib i greu safle ar gyfer claddu gwastraff niwclear o weddill y DU yng Nghymru yn y dyfodol.

Daw hyn cyn cyfarfod sydd wedi'i drefnu ddydd Gwener gan Lywodraeth Cymru, i drafod sut y byddan nhw'n mynd ati i ymateb i broses ymgynghori gan Lywodraeth y DU sydd bellach wedi dod i ben.

Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ceisio dod o hyd i ateb hir dymor ar gyfer storio'r gwastraff niwclear ymbelydredd uchel sydd wedi'i gynhyrchu dros y blynyddoedd, a does yna ddim safle wedi ei glustnodi ar gyfer hyn.

Y dewis maen nhw a Llywodraeth Cymru yn eu ffafrio yw i adeiladu claddfa barhaol neu Geological Disposal Facility (GDF) er mwyn ei storio ymhell dan y ddaear.

Ond yn ôl Rhun ap Iorwerth, AC Ynys Môn, byddai'n bryder "os bydd unrhyw ymgais i'w gwneud yn 'haws' i ddenu claddfa wastraff i Gymru".

"I fi, mae'n glir - dydw i ddim yn dymuno gweld claddfa yng Nghymru, ac rwy'n hyderus mod i'n cynrychioli barn y mwyafrif llethol o bobl Cymru yn hynny o beth," meddai.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, does dim bwriad i "fynd ati i greu GDF yng Nghymru, ac ni fydd GDF yn cael ei adeiladu yng Nghymru os nad oes cymuned yn dewis creu cyfleuster o'r fath".

Adeiladu un safle

Ar hyn o bryd mae gwastraff ymbelydrol lefel isel yn cael ei gadw ar safleoedd y gorsafoedd niwclear, gan gynnwys Wylfa ar Ynys Môn a Thrawsfynydd yng Ngwynedd.

Mae'r gwastraff hir dymor yn cael ei storio yn Sellafield, Cumbria, ond gyda'r ymbelydredd hwnnw'n cymryd degau o filoedd o flynyddoedd i ddirywio i lefelau saff, yr opsiwn hir dymor mae llawer o wledydd yn ei ffafrio yw datblygu cyfleuster gwaredu daearegol (GDF).

Bwriad Llywodraeth y DU yw i adeiladu un safle ar gyfer holl wastraff Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon.

Gan fod delio a gwastraff niwclear yn fater datganoledig roedd yn rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd benderfynu eu safbwynt hwythau, ac yn 2015 fe benderfynwyd mabwysiadu'r un polisi a llywodraeth y DU ar adeiladu claddfa.

Roedd Cyngor Sir Cumbria eisoes wedi pleidleisio yn 2013 fodd bynnag yn erbyn ymgais i sefydlu claddfa yno, er bod cyngor bwrdeistref Copeland wedi rhoi sêl bendith iddo.

Image caption Protestio yn Cumbria yn erbyn claddfa gwastraff niwclear

Ers hynny mae deddfau cynllunio wedi newid yn Lloegr sydd bellach yn diffinio GDF fel prosiect isadeiledd o bwys cenedlaethol, ac mae'r llywodraeth wedi ymgynghori ar y broses o fynd ati i drafod gyda chymunedau allai fod â diddordeb.

Fe allai hynny olygu y bydd y llywodraeth yn bwrw ati eleni unwaith eto i geisio dod o hyd i ardal allai gynnal safle o'r fath.

Mewn llythyr sydd wedi ei weld gan BBC Cymru yn gwahodd unigolion a sefydliadau i'w gweithdy ddydd Gwener, dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedden nhw am "fynd ati i greu GDF yng Nghymru, ac ni fydd GDF yn cael ei adeiladu yng Nghymru os nad oes cymuned yn dewis creu cyfleuster o'r fath".

Ond ychwanegwyd y byddai datblygiad o'r fath yn "cynnig buddsoddiad a swyddi dawnus sy'n talu'n dda i'r economi leol", ac nad oedden nhw eisiau rhoi cymunedau yng Nghymru "dan unrhyw anfantais" wrth geisio am safle o'r fath.

'Darlun positif'

Mynnodd Rhun ap Iowerth fodd bynnag fod angen gwrthwynebiad fwy pendant o Fae Caerdydd.

"Mae'r llythyr... yn datgan nad yw Llywodraeth Cymru am wthio am sefydlu GDF tra ar yr un pryd yn ceisio agor y drws i unrhyw rai fuasai yn cefnogi datblygiad o'r fath," meddai AC Plaid Cymru.

"Mae'n paentio darlun positif iawn, er enghraifft am y potensial o ran creu swyddi ac ati. Mae'n rhoi'r argraff hefyd bod claddfeydd o'r math yma yn bethau 'cyffredin'. Dydyn nhw ddim."

Dywedodd Brian Jones o fudiad gwrth-niwclear CND Cymru, sydd wedi'i wahodd i'r cyfarfod, bod pryder y gallai agos y drws at lwgrwobrwyo un cymuned ar draul eraill yn yr ardal oedd yn gwrthwynebu claddfa.

Fe gododd gwestiynau hefyd ar sut fyddai 'cymuned' yn cael ei diffinio, gan fynegi pryder y gallai fod ar lefel is na chyngor sir.

"Maen nhw hefyd yn awgrymu y byddai'r gymuned yn cael arian am 150 o flynyddoedd, ond pan fydd yr arian hwnnw'n dod i ben bydd y gwastraff niwclear dal yno am filoedd o flynyddoedd eto. Pam yr hyd yna o amser?

"Tasa unrhyw gymuned yn dangos diddordeb, byddai'n rhaid bod gyda nhw'r wybodaeth lawn i wneud penderfyniad.

"Dwi'n cytuno â pholisi Llywodraeth yr Alban, hynny yw dylid storio gwastraff niwclear uwchben y tir, lle mae'n hawdd monitro, ar safle'r gorsafoedd niwclear.

"Os mae rhywbeth yn mynd o'i le ar ôl i wastraff niwclear fod wedi claddu dan ddaear, mae'n llawer mwy anodd gwybod beth sy'n digwydd ac i wneud unrhywbeth amdano fe."

'Saff, diogel a hir dymor'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu polisi o waredu daearegol ar gyfer rheoli gwastraff ymbelydrol lefel uchel mewn modd saff, diogel a hir dymor.

"Byddai cyfleuster gwaredu daearegol (GDF) ddim ond yn gallu cael ei hadeiladu ar sail partneriaeth gwirfoddol gyda chymunedau lleol oedd a diddordeb ac yn fodlon cynnal trafodaethau.

"Bydd y gweithdy yn benodol yn edrych at y cynigion at gyfer sut i fynd ati i ymdrin ag unrhyw gymuned oedd yn fodlon trafod cynnal GDF.

"Mae papur trafod wedi ei hanfon cyn y gweithdy, ble rydyn ni wedi ei gwneud hi'n glir ein bod ni'n awyddus i glywed barn pawb sydd a diddordeb ar bob rhan o'r ymdriniaeth, gan gynnwys sut y bydd 'cymuned' yn cael ei ddiffinio."