Yr A55 wedi ailagor tua'r gorllewin ar ôl gwrthdrawiad

A55 Image copyright Google
Image caption Roedd y ffordd ynghau rhwng lonydd ymadael Yr Wyddgrug a Llaneurgain

Bu'r A55 ynghau tua'r gorllewin am tua pedair awr ddydd Iau wedi i lori fynd oddi ar y ffordd.

Roedd y ffordd ynghau rhwng lonydd ymadael Yr Wyddgrug (A494) a Llaneurgain (A5119) o 10:30.

Gan y bu angen craen i symud y lori, roedd Heddlu'r Gogledd wedi rhybuddio y byddai oedi sylweddol.

Roedd y traffig yn cael ei dargyfeirio cyn i'r ffordd ailagor am tua 14:30.