Bachgen wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn y Barri

Gwrthdrawiad Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd y Barri ger y gyffordd â Stryd Llewelyn nos Fawrth

Mae bachgen 16 oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad gyda thacsi yn y Barri nos Fawrth.

Fe gafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn dilyn gwrthdrawiad â char Skoda Octavia gwyn ar Ffordd y Barri am 22:30.

Cadarnhaodd heddlu'r de fod y bachgen wedi marw o'i anafiadau ddydd Mercher.

Mae swyddogion yn apelio am dystion i'r digwyddiad ger y gyffordd â Stryd Llewelyn.

Mae teulu'r bachgen yn cael cymorth swyddogion arbenigol.