Hedfan seiclwr i'r ysbyty ar ôl cael ei daro gan gar

A465 Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A465 ger Hirwaun

Mae seiclwr wedi cael ei hedfan i'r ysbyty ar ôl iddo gael ei daro gan gar ar Ffordd Blaenau'r Cymoedd ger Hirwaun.

Cafodd ambiwlans awyr ei alw ar ôl i'r dyn ddioddef anafiadau difrifol yn y digwyddiad am tua 14:45 ddydd Mercher.

Roedd yr A465 ynghau i'r ddau gyfeiriad rhwng y cylchfannau gyda'r A4059 a'r A4061 am gyfnod.

Mae'r ffordd wedi ailagor i gyfeiriad y gorllewin, ond yn parhau ar gau i gyfeiriad y dwyrain tra bo Heddlu'r De yn ymchwilio i'r digwyddiad.

Mae traffig yn cael ei ddargyfeirio trwy Aberdâr a phentref Hirwaun, ac mae gyrwyr yn cael eu hannog i osgoi'r ardal.