Bywyd ar ôl byw mewn ofn

dwrn Image copyright Llun llyfrgell

Saith mlynedd ar ôl ffoi o berthynas dreisgar, mae'r creithiau corfforol wedi pylu ond mae'r creithiau meddyliol yn parhau i un fam o orllewin Cymru.

Am resymau personol, dydy hi ddim yn awyddus i ddatgelu ei henw. Dyma 'Lois' i rannu ei stori gyda BBC Cymru Fyw:


Methu dianc

Wrth edrych yn ôl, mae Lois yn teimlo bod yr hunllef y buodd hi'n byw drwyddo wedi "digwydd i rywun arall mewn ffilm neu lyfr ffuglen".

Ar ôl symud o Gymru i America, a hithau'n feichiog, dechreuodd ei gŵr ymosod yn ddifrifol arni.

"Dechreuodd fy nharo, fy nghicio a dyrnu'r corff, gan ddefnyddio pethau fel sgidiau, ffyn, ceblau ac ati - nes fy mod i methu a symud," meddai.

"Roedd yna fygwth corfforol a geiriol, chwarae meddyliau, trais rhywiol. Pob dim a dweud y gwir.

"Doedd yna ddim ffoi, am ei fod yn rheoli popeth, ac erbyn hyn roedd gen i ofn gwirioneddol. Ofn gadael, ofn gwneud dim."

Dywed iddo ymosod arni un tro yn y tŷ bach tra'r oedd hi'n feichiog yn dioddef gyda salwch bore. Ciciodd hi'n ddidrugaredd gydag esgidiau trymion tra'r oedd hi'n eistedd yno, a'i dal hi i lawr tra'r oedd hi'n ceisio ffoi.

"Fe wnaeth e stopio yn y diwedd gyda'r esboniad pe bawn i heb wneud iddo fynd yn flin fel yna, fydden i ddim wedi cael dolur," meddai.

"Pan wnes i lwyddo i fynd yn ôl i'r gwely, dan lefain achos y dolur, wnaeth e benderfynu fy nal i lawr, a dyrnu fy mhen nes i mi basio allan."

Dro arall, pan oedd eu hail blentyn yn dair oed, a phan oedden nhw'n byw yn ôl yng Nghymru, ymosododd arni wedi iddi wrthod cael rhyw.

"Aeth e'n grac, a dechrau fy mwrw i, a fy nhagu i," meddai. "Nes y funud yna, wnes i byth feddwl y byddai'n ceisio fy lladd i.

"Roedd e'n edrych mewn i fyw fy llygaid, yn poeri geiriau hyll a chas i fy ngwyneb. Wnaeth e ond stopio ar ôl i fy mhlentyn ifancaf, tair oed, ddod mewn a gwthio'i hun rhyngom ni.

"Ges i gymaint o ofn, yn enwedig am fod fy mhlentyn wedi cael ei rhoi mewn sefyllfa a allai fod wedi ei brifo hi."

Image copyright Llun llyfrgell/BBC
Image caption "Roedd e'n edrych mewn i fyw fy llygaid, yn poeri geiriau hyll a chas i fy ngwyneb"

Hudo

Doedd dim arwydd o'r dyn hwnnw pan gwrddodd ag ef am y tro cyntaf, meddai. Ond digon buan y dechreuodd ei ymddygiad effeithio arni'n feddyliol.

"Do'n i ddim yn chwilio am berthynas ar y pryd, daeth e fel mellten, o unman, yn annisgwyl iawn," meddai.

"Roedd e mewn perthynas arall ar y pryd, a ro'n i'n falch iawn jest i fod yn ffrindiau. Roedd e'n neis, yn ddymunol ac yn rhoi sylw i fi nad o'n i wedi ei gael yn y gorffennol.

"Roedd e eisiau gwybod popeth amdana i, y pethau da a'r drwg; ac roedd e hefyd eisiau rhannu ei gyfrinachau i gyd.

"Wnaeth hyn fy synnu i o ystyried ei fod e mewn perthynas hir dymor. Ond roedd e'n aml yn dweud nad oedd e'n gallu byw hebdda i, ac yn sydyn iawn, dechreuais i deimlo'n gyfrifol amdano."

Wrth edrych yn ôl, meddai, roedd y sefyllfa'n "wallgof", ond roedd y twyll mor ddwfn ac yn digwydd mewn ffordd lechwraidd.

Roedd Lois wedi dioddef trais rhywiol yn blentyn, a ddim eisiau perthynas rhywiol. Ond roedd y dyn yn ddiysgog mai perthynas gyfeillgar yn unig oedd ei eisiau: "Nid fy nghorff i oedd e eisiau, ond fy meddwl.

"Yn sydyn, dyma ddyn oedd fy eisiau i fel person, a dim byd arall; ac roedd e wedi dweud mai fi oedd yr unig un i'w achub e hefyd," meddai. "Dwi'n cofio meddwl: 'Ai hwn yw'r un?'"

Wnaeth pethau symud ymlaen yn sydyn wedyn, wrth iddo adael ei gariad. Ond yna fe newidiodd ei ymddygiad tuag ati.

"Erbyn heddi, dwi'n adnabod y term fel gas lighting. Dweud un peth, gwneud peth arall, disgwyl ymateb, cywiro, defnyddio emosiwn, manipulation, yna mae'r holl broses yn dechrau eto," meddai.

"Roedd yn fy ngwneud i i amau beth o'n i'n ei gofio, beth o'n i'n gwneud, a fy ngwneud i golli fy meddwl yn llwyr. Pethau bach subtle i ddechrau, ond yna pethau gwaeth.

"Roedd hi'n hawdd gwneud esgusodion am y sefyllfa, am ei fod e'n mynd drwy uffern, felly dylai gael bach o chwarae teg.

"Doedd y pethau yma ddim yn digwydd yn aml, ac ar ôl hynny roedd e wastad mor sori, mor ddiffuant, ac yn esbonio popeth mor synhwyrol."

Image copyright Llun llyfrgell/Thinkstock
Image caption Mae trais yn y cartre yn effeithio ar fywydau un ymhob pedair menyw yn y DU ac un ymhob chwech o ddynion. Ffynhonnell: ONS

Atgofion yn llifo yn ôl...

Dywedodd Lois ei bod hi wedi cael cefnogaeth gan Women's Aid a chwnselwyr annibynnol. Ond mae trawma'r hyn a ddigwyddodd yn gadael ei ôl arni o hyd.

"Mae pethau yn gallu cael eu sbarduno gyda sefyllfa debyg yn cael ei hail fyw, neu gydag arogl, sŵn, rhywbeth gweladwy, cyffwrdd, cân, geiriau penodol ac ati," meddai.

"Mae'r holl beth yn gallu fy rhoi i mewn i stad o banig, tristwch, dicter ac ambell dro does dim geiriau i ddisgrifio'r hyn sy'n digwydd, a'r ffordd y mae'n fy ngwneud i i deimlo.

"Erbyn nawr, dwi hefyd yn llefain - rhywbeth na wnes i wneud am flynyddoedd, achos ro'n i'n dysgu technegau i oroesi'r hyn oedd yn digwydd.

"Er mwyn parhau i fyw, a chodi bob bore, wnes i, fel lot fawr ohonom ni, droi fy nheimladau i ffwrdd a byw'n ddideimlad.

"Mae'r gost yma'n fawr, a do'n i ddim wir wedi sylwi ar yr effaith nes i fi fod allan o'r sefyllfa."

Mae un o'i phlant yn dal i weld eu tad, ac mae'n ofid mawr iddi. Mae'n golygu bod yn rhaid iddi barhau mewn cyswllt gyda'i chyn-ŵr.

"Heb law am y trais corfforol, mae'r gweddill yn parhau a does dim byd all neb ei wneud i atal hynny.

"Ac mae'r tad nawr yn gallu ymdrin â'r plant a'u darostwng yn yr un ffordd. Oherwydd bod fy mhlentyn yn dal i'w weld, mae'n defnyddio'r sefyllfa i fy mygwth i o hyd, yn eiriol, drwy decst, e-bost a sgwrs dros y ffôn.

"Y tristwch, a'r peth mwyaf rhwystredig i fi, yw bod dial yn fy erbyn i dal yn fwy pwysig iddo na lles ein plentyn; ac mae e'n defnyddio'r plentyn i wneud dolur i fi am nad yw e nawr yn gallu fy nharo a rhoi dolur uniongyrchol.

"Dwi wedi ffonio'r heddlu fwy nag unwaith ond yr un yw'r ateb - does dim digon o dystiolaeth, a does dim y gallen nhw wneud am y peth."

Image copyright Llun llyfrgell/Thinkstock
Image caption "Dwi wedi ffonio'r heddlu sawl gwaith... ond does dim y gallan nhw wneud am y peth"

Symud ymlaen

Wrth edrych yn ôl ar gyfnod erchyll, er yr holl ofid parhaus a'r ansicrwydd, mae'n ddiolchgar o allu bod yma o gwbl, meddai.

"Ar ôl dod mas o'r berthynas yma, ro'n i jest yn falch fy mod i'n fyw, ac yn saff."

Doedd mynd mewn i berthynas arall ddim wedi croesi ei meddwl, meddai, ac roedd ganddi fwy i feddwl amdano na chael partner.

"Yn y blynyddoedd cynnar, do'n i ddim eisiau bod yn faich ar neb, a do'n i ddim eisiau esbonio i neb. Wedi'r cyfan, pwy fyddai eisiau rhywun fel fi yn eu bywydau, a beth fyddai gen i i'w gynnig?"

Ond yn y blynyddoedd diwetha', mae wedi cael partner sy'n ei thrin hi'n dda, meddai.

"Dyn sy'n gweld heibio i'r holl dywyllwch, ac sydd wirioneddol yn fy ngweld i, ac yn fy ngharu i, fel ydw i," meddai.

"Nid yw'n berthynas hawdd am fy mod i wedi dod gyda lot fawr o ansicrwydd, lot fawr o argraffiadau gwael a hunan amheuaeth.

"Ond fel mae e'n cadw fy atgoffa - mae gan bawb broblemau. Mae wedi dangos bod yna bobl garedig, gariadus i gael yn y byd. Does dim cosb na thâl am ddim byd."

Stori: Llinos Dafydd