Dreigiau 0-10 Gweilch

tipuric Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Justin Tipuric oedd sgoriwr unig gais y gêm

Mae'r Gweilch wedi codi i'r ail safle yn y Pro12 yn dilyn buddugoliaeth galed oddi cartref yn erbyn y Dreigiau.

Er gwaethaf amheuon am gyflwr y cae yn Rodney Parade, fe benderfynodd y dyfarnwr y byddai'r gêm yn mynd yn ei flaen.

Wedi deuddeg munud o chwarae fe wnaeth Justin Tipuric ganfod bwlch yn amddiffyn y Dreigiau a chroesi am unig gais y gêm, gyda Dan Biggar yn ychwanegu'r trosiad.

Methodd y tîm cartref â manteisio ar gerdyn melyn i fewnwr y Gweilch, Tom Habberfield, ac fe aeth yr ymwelwyr i mewn ar yr egwyl ar y blaen o 7-0 wedi i Angus O'Brien fethu cic gosb.

Fe barhaodd y Gweilch i roi pwysau ar linell gais y Dreigiau ar ddechrau'r ail hanner, ond roedd y ddau dîm yn ei chael hi'n fwyfwy anodd chwarae rygbi ymosodol ar y cae mwdlyd.

Methodd O'Brien gic gosb arall, ac fe fanteisiodd y Gweilch ar hynny wrth i Biggar drosi ei gic yntau i ymestyn y fantais i ddeg pwynt.

Gyda phum munud i fynd fe diriodd Pat Howard i'r Dreigiau ond dyfarnwyd bod y bêl wedi mynd ymlaen o'r dwylo, ac felly wnaethon nhw ddim cipio pwynt bonws.