Dyn o Gaernarfon yn dwyn oen i ginio Nadolig

Gareth Williams Image copyright Google/Thinkstock
Image caption Plediodd Gareth Williams yn euog i ddwyn yr oen

Mae dyn o Gaernarfon wedi cyfaddef dwyn oen o fferm gan nad oedd awydd bwyta twrci fel pryd Nadolig.

Fe wnaeth Gareth Williams, 34 oed, ddwyn yr oen o fferm ar gyrrion y dref ar 6 Rhagfyr.

Ond clywodd Llys Ynadon Caernarfon fod yr oen wedi gwrthod neidio allan o'i gar felly fe aeth Mr Williams ag o i stad ddiwydiannol lle cafodd ei ryddhau cyn diflannu.

Plediodd Williams, sydd wedi ei hyfforddi i fod yn gigydd, yn euog i gyhuddiad o ddwyn ac fe gafodd orchymyn i gwblhau 75 awr o waith yn ddi-dal.

Dywedodd Sheyanne Lee ar ran yr erlyniad: "Dywedodd nad oedd awydd twrci arno eleni ac fe ofynnodd os byddai'n cael prynnu'r oen yn fyw".

Cytunodd dalu £100 am yr anifail, ond yn hytrach na thalu amdano fe wnaeth ei ddwyn cyn ei gludo adref.

Dywedodd ei bartner wrtho am ddychwelyd yr anifail ond fe aeth ag o i stad ddiwydiannol gan obeithio y byddai'r oen yn dychwelyd yn ôl i'r fferm.

Cafodd Williams orchymyn i dalu £100 o iawndal a £170 o gostau.