Menyw wedi ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol

Heddlu

Mae menyw yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol, yn dilyn gwrthdrawiad yn Aberpennar yn ystod oriau man fore Sadwrn.

Roedd y Citreon Berlingo arian yn teithio rhwng Cwmbach ac Aberpennar, pan darodd y car gylchfan ger ysbyty gymunedol Aberpennar.

Cafodd y ferch 26 oed, oedd yn eistedd yn ffrynt y car, ei chludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Cafodd y gyrrwr, dyn lleol 27 oed, hefyd ei gludo i ysbyty gydag anafiadau.