Uwchraddio'r rheilffyrdd yn effeithio ar deithio'r Nadolig
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl y bydd gwaith moderneddio'r rheilffyrdd yn amharu ar y gwasanaeth trên ar draws y De dros y Nadolig gan ddechrau ar noswyl Nadolig.
Yn ôl cwmni Network Rail fe fydd y prosiect ailarwyddo ar gost o £300m yn gwella'r gwasanaeth.
Bydd y gwaith yn cael effaith ar wasanaethau Caerdydd a'r Cymoedd ac hefyd ar wasanaeth y brif lein rhwng Casnewydd a Phenybont-ar-Ogwr.
Disgwylir i'r gwaith ddod i ben ar Ionawr yr ail ac fe fydd gwasanaethau bws ar gael o 27 Rhagfyr.
Fel rhan o'r gwaith bydd platfform newydd rhif wyth yn agor yng ngorsaf Caerdydd Canolog.
Ffyrdd ar gau
Dywedodd Network Rail y bydd "byddin" o staff yn gweithio gydol y dydd a'r nos dros ddyddiau'r Nadolig "er mwyn creu gwasanaeth gwell ac ehangach i deithwyr."
Mae yna hefyd rybudd i yrrwyr y bydd rhai ffyrdd ar gau dros dro o ganlyniad i'r gwaith.
Bydd croesfannau rheilffordd Gorllewin Llantrisant, Sain Ffagan, Sain Siorys, Pontsarn a Phencoed ar gau am gyfnod byr er mwyn profi yr offer arwyddo newydd.
Fe ddywedodd Trenau Arriva Cymru y bydd y gwaith arwyddo yn creu gwasnaeth trenau "cadarnach" ac fe fydd y platfform newydd yn "cynnig mwy o hyblygrwydd."