Arestio 11 mewn cyrchoedd cyffuriau

cyffuriau Image copyright Heddlu Gogledd Cymru

Mae Heddlu'r Gogledd wedi bod yn cynnal cyfres o gyrchoedd gwrthgyffuriau yn ardal Y Rhyl fore Gwener.

O ganlyniad i Ymgyrch Viper fe gafodd 11 o bobl eu harestio yn yr ardal.

Fe gafodd symiau o arian, ffonau symudol a chanabis eu cipio fel rhan o'r cyrchoedd.

Dywedodd Peter Evans o Dîm Cymunedau Diogelach Y Rhyl: "Mae'r gwarantau a ddefnyddiwyd heddiw yn gyrru neges bositif, sef na fydd gwerthu cyffuriau ar strydoedd Y Rhyl yn cael ei ganiatau'."

Fe gafodd pob un o'r 11 a arestiwyd eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau.