Gwrthod cais yswiriant yn 'afresymol'

Mark a Cerys Jenkins gyda'u plant Sami a Lewi
Image caption Mark a Cerys Jenkins gyda'u plant Sami, 11 oed, a Lewi, dwy

Mae cwmni yswiriant wedi ei gyhuddo o roi enw drwg i'r diwydiant ar ôl gwrthod cais gan deulu o Faesteg gafodd difrod yn eu cartre yn ystod llifogydd fis diwethaf.

Mae Mark Jenkins wedi cael gwybod gan gwmni Ocaso bod ei gais yn cael ei wrthod gan iddo beidio datgan bod yna afon o fewn 200 metr i'w gartref.

Dywed Aelod Cynulliad Ogwr Huw Irranca-Davies, sy'n gyn weinidog llifogydd i Lywodraeth y DU bod y cwmni yn "afresymol", ac nad oedd yr afon ddim i'w wneud â'r llifogydd.

Yn ôl Ocaso maen nhw mewn trafodaethau gyda Mr Jenkins.

Herio'r penderfyniad

Mae pobl sy'n byw ym Maesteg wedi dweud iddyn nhw dorri eu calonnau yn sgil llifogydd wnaeth ddilyn y glaw trwm yn ystod Storm Angus.

Image copyright KENNETH J HICKS
Image caption Difrod mewn un cartref ym Maesteg yn ystod storm Angus

Mae Mr Jenkins yn amcangyfrif bod £50,000 o ddifrod wedi ei achosi i'w dŷ ac yn herio penderfyniad Ocaso i beidio talu am y gost.

Bu'n rhaid iddo fe, ei wraig Cerys a'u plant Sami, 11 a Lewis, 2 symud allan o'u cartre gan fyw gyda rhieni Cerys.

"Fe allwch chi ddychmygu mae hi'n drafferthus, ni'n pedwar mewn un ystafell.

"Mae'r bychan yn edrych ymlaen at ei Nadolig yn y tŷ, dyw hynny ddim am ddigwydd.

"Yn lwcus mae ganddo ni deulu agos i'n helpu, fel arall fe fydden ni'n ddigartre', achos fedrwn ni ddim byw fan hyn."

Dywed Mr Jenkins nad yw'n cofio cwestiwn a oes yna afon yn agos i'r cartref.

"Dwi'n credu i mi fethu'r cwestiwn, gan nad ydw'i yn ei gofio."

'Cais dilys'

Mae wedi cael cefnogaeth ei aelod cynulliad lleol Huw Irranca-Davies, sy'n dweud bod y ffordd mae Ocaso wedi delio gyda'r mater yn "ofnadwy."

"Mae angen iddyn nhw ddangos peth trugaredd.

"Roedd hyn yn ddigwyddiad annisgwyl... ac yn ddim byd i wneud gyda'r afon yn gorlifo. Mae'n gais dilys gan gwpwl a'u teulu.

"Mae hyn yn rhoi enw drwg i'r diwydiant."

Image caption Dywedodd Huw Irranca-Davies bod angen i'r cwmni yswiriant "ddangos peth trugaredd"

Dywedodd llefarydd ar ran Ocaso: "Ry'n ni mewn trafodaethau... am y mater, a`r wybodaeth a gafodd ei ddarparu pan drefnwyd y polisi yn wreiddiol.

"Fyddai hi ddim yn briodol i ni ymateb ymhellach ar hyn o bryd."

Mae Llywodraeth Cymru wedi cysylltu gyda'r Gymdeithas Yswirwyr Brydeinig (ABI) am yr achos.

'Helpu a chefnogi'

Mewn llythyr mae'r Ysgrifennydd Amgylchedd Lesley Griffiths yn dweud bod ei swyddogion o'r farn na chafodd y llifogydd eu hachosi gan "unrhyw brif afon."

Yn ôl llefarydd ar ran yr ABI:

"Mae yswiriant yno i helpu a chefnogi pan fydd y gwaethaf yn digwydd.

"Mae'n bwysig bod pobl yn ateb cwestiynau yn gywir... tra'n ymgymryd gyda'r polisi, fel bod yr yswirwyr yn gallu asesu'r risg a gosod taliadau sy'n briodol.

"Mae'r Ombwdsmon Gwasanaethau Ariannol ar gael i ymchwilio i unrhyw achos ble mae'r cwsmer yn teimlo iddynt gael eu trin yn annheg.

"Mae'r diwydiant yswiriant yn cymryd mater yn ymwneud gydag yswiriant eiddo mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd yn ddifrifol iawn, a dyna pam i ni wedi gweithio gyda'r Llywodraeth i sefydlu'r cynllun Llifogydd cyntaf, er mwyn i bobl gael yswiriant rhatach i'w cartrefi."

Galw am newid

Mae Mr Irranca-Davies yn galw am newid y rheolau fel bod cwmnïau yswiriant eu hunain yn darganfod pa mor agos yw tŷ cwsmer i afon, yn hytrach na bod y cwsmeriaid yn gorfod datgan hyn ei hunain.

"Fe allan nhw wneud hyn eu hunain, peidio gofyn i bobl i dicio blwch, a sortio'r broblem eu hunain, mae ganddoch chi'r mapiau, fe allwch chi wneud hyn," meddai.

Mewn ymateb dywedodd y Gymdeithas Yswirwyr Brydeinig: "Mae yswirwyr yn defnyddio technoleg mapio soffistigedig yn fwyfwy er mwyn asesu drostyn nhw eu hunain y risg llifogydd i wahanol eiddo, ond mae hi lawr i gwmnïau unigol i benderfynu sut maen nhw'n gweithredu ar hyn.

"Fe ddylai cwsmeriaid sydd ddim yn gwybod yr ateb i rywbeth bigo'r ffôn a siarad gyda'r yswirwyr."